RHAN 5Ariannu
Cyfrifo gofynion cyllidebI116
1
Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y Gogledd gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—
a
ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a
b
ei swyddogaethau eraill.
2
Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—
a
y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);
b
y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;
c
y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;
d
unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.
3
Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y Gogledd hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd i’w priodoli i—
a
ei swyddogaethau cynllunio strategol, a
b
ei swyddogaethau eraill.
4
Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Gogledd ar gyfer y flwyddyn ariannol.
5
Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Gogledd ar gyfer y flwyddyn ariannol.
6
Rhaid i CBC y Gogledd —
a
cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a
b
cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,
yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.
7
Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.
8
Caiff CBC y Gogledd ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y Gogledd o ganlyniad i hynny.
9
Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y Gogledd.
Ariannu gofyniad cyllidebI217
1
Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.
2
Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau.
3
Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
4
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.