xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
12.—(1) Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y Gogledd, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.
(2) Mae Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y Gogledd a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(2).
S.I. 2021/328 (Cy. 86).