Ariannu gofyniad cyllidebLL+C
17.—(1) Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.
(2) Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Gogledd gael ei dalu i CBC y Gogledd gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol [F1yr aelodau cyngor ac aelod Eryri].
(3) Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
(4) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 17(2) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)