8.—(1) Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Gogledd (“aelod Eryri”).
(2) Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Eryri yw—
(a)cadeirydd yr Awdurdod,
(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu
(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.
[F1(2A) Ni chaiff aelod Eryri weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13;
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(2B) Ond caiff aelod Eryri hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Gogledd—
(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Eryri yn cytuno [F2yn unfrydol], neu
(b)os caniateir i aelod Eryri weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Eryri weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Eryri i weithredu.]
[F3(3) Pan fo person sy’n aelod Eryri o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod Eryri am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (2) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Gogledd am y cyfnod hwnnw.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (3) i’w drin fel pe bai’n aelod Eryri o CBC y Gogledd.
(5) Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod Eryri fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
(6) Ym mharagraff (3) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
(a)wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Gogledd, neu
(b)wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 8(2A)-(2C) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 35(5)(a)
F2Gair yn rhl. 8(2B)(a) wedi ei fewnosod (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 42(4)
F3Rhl. 8(3)-(6) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 8(3) (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 6(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)