RHAN 3LL+CAelodaeth

Aelod EryriLL+C

8.—(1Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Gogledd (“aelod Eryri”).

(2Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Eryri yw—

(a)cadeirydd yr Awdurdod,

(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

[F1(2A) Ni chaiff aelod Eryri weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13;

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

(2B) Ond caiff aelod Eryri hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Gogledd—

(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Eryri yn cytuno [F2yn unfrydol], neu

(b)os caniateir i aelod Eryri weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Eryri weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Eryri i weithredu.]

[F3(3) Pan fo person sy’n aelod Eryri o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod Eryri am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (2) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Gogledd am y cyfnod hwnnw.

(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (3) i’w drin fel pe bai’n aelod Eryri o CBC y Gogledd.

(5) Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod Eryri fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.

(6) Ym mharagraff (3) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—

(a)wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Gogledd, neu

(b)wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.]