Rheoliad 5
YR ATODLENCyfansoddiad
RHAN 1Gweithdrefn, cyfarfodydd a phleidleisio
Cadeirio cyfarfodydd
1. Rhaid i gyfarfodydd CBC y Gogledd gael eu cadeirio gan—
(a)y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu
(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.
Penodi cadeirydd ac is-gadeirydd
2.—(1) Yng nghyfarfod cyntaf CBC y Gogledd—
(a)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a
(b)rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor bwrdeistref sirol Conwy gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).
(2) Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y Gogledd—
(a)rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu
(b)rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.
(3) Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.
(4) Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—
(a)yr aelodau cyngor, a
(b)unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.
(5) Caiff person a benodir yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau eraill.
(6) Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y Gogledd a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.
(7) Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.
(8) Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (6) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor bwrdeistref sirol Conwy.
Cyfarfodydd cyffredinol blynyddol
3. Rhaid i CBC y Gogledd o gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.
Cyfarfodydd eraill
4.—(1) Caiff CBC y Gogledd gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.
(2) Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y Gogledd gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.
Cworwm
5. Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Gogledd onid yw—
(a)yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—
(i)rheoliad 17, neu
(ii)paragraff 7 o’r Atodlen hon,
yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a
(b)mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.
Y weithdrefn bleidleisio
6.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Gogledd—
(a)ni chaiff nifer y cyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio,
(b)un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,
(c)mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a
(d)os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.
(2) Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—
(a)rheoliad 17, neu
(b)paragraff 7 o’r Atodlen hon,
nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.
(3) Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff (1)(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.
Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol
7.—(1) Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y Gogledd fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.
(2) Ond ni chaiff CBC y Gogledd fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—
(a)rheoliad 17, neu
(b)y paragraff hwn.
(3) Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—
(a)rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y Gogledd y mae’n gymwys iddynt;
(b)ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).
(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol—
(a)aelodau CBC y Gogledd, a
(b)unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.
(5) Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.
Rheolau sefydlog
8.—(1) Rhaid i CBC y Gogledd wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.
(2) Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.
RHAN 2Staff
Cyffredinol
9. Caiff CBC y Gogledd wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—
(a)darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a
(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021(1).
Telerau ac amodau
10.—(1) Pan fo CBC y Gogledd yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y Gogledd.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal CBC y Gogledd rhag addasu unrhyw delerau ac amodau os yw hynny’n angenrheidiol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
Staff o awdurdodau eraill
11.—(1) Caniateir i awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006(2)) ymrwymo i gytundeb gyda CBC y Gogledd ar gyfer rhoi staff yr awdurdod at ddefnydd CBC y Gogledd at ddibenion arfer ei swyddogaethau, o dan unrhyw delerau a ddarperir gan y cytundeb.
(2) Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y Gogledd yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y Gogledd at ddibenion—
(a)y Rheoliadau hyn;
(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;
(c)unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y Gogledd neu ag arfer ei swyddogaethau.
Rhoi staff at ddefnydd awdurdodau eraill
12.—(1) Caiff CBC y Gogledd ymrwymo i gytundeb gydag—
(a)cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);
(b)awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),
ar gyfer rhoi staff CBC y Gogledd at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.
(2) Pan fo aelod o staff CBC y Gogledd yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—
(a)at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y Gogledd, a
(b)at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.
Ymgynghori â staff ynghylch cytundebau o dan baragraff 11 neu 12
13. Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.
Trosglwyddo staff
14. Pan fo aelod o staff a benodir gan CBC y Gogledd wedi ei drosglwyddo i’r CBC o gyngor cyfansoddol, mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(3) ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10 yn gymwys i’r trosglwyddiad, pa un a yw’n drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio.
RHAN 3Is-bwyllgorau
Is-bwyllgorau
15.—(1) Caiff CBC y Gogledd —
(a)sefydlu is-bwyllgorau;
(b)penodi’r canlynol yn aelodau o is-bwyllgor—
(i)aelodau o CBC y Gogledd;
(ii)cyfranogwyr cyfetholedig (gweler rheoliad 9).
(2) Ni chaiff is-bwyllgor ond arfer y swyddogaethau hynny a ddirprwyir iddo gan CBC y Gogledd (ond gweler rheoliad 15 a pharagraff 16).
(3) Rhaid nodi gweithdrefnau is-bwyllgor, gan gynnwys unrhyw weithdrefnau pleidleisio pan fo hynny’n briodol, yn y rheolau sefydlog.
Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
16.—(1) Rhaid i CBC y Gogledd sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—
(a)adolygu materion ariannol CBC y Gogledd a chraffu arnynt;
(b)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y Gogledd;
(c)adolygu ac asesu trefniadau CBC y Gogledd ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol;
(d)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y Gogledd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;
(e)goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y Gogledd;
(f)adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y Gogledd;
(g)arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y Gogledd.
(2) Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y Gogledd sicrhau—
(a)bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,
(b)y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac
(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—
(i)yn aelod cyngor,
(ii)yn gyfranogwr cyfetholedig, nac
(iii)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.
(3) Yn is-baragraff (2), ystyr “cyfranogwr cyfetholedig” yw person a gyfetholir—
(a)yn aelod o is-bwyllgor ac eithrio’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, neu
(b)i gyfranogi yng ngweithgareddau CBC y Gogledd ac eithrio gweithgareddau’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
(4) Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).
(5) Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.
2006 p. 32. Gweler adran 157A ac Atodlen 9A fel y’u mewnosodwyd gan adran 4 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac Atodlen 3 iddi.