YR ATODLENCyfansoddiad
RHAN 1Gweithdrefn, cyfarfodydd a phleidleisio
Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol7
1
Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y Gogledd fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.
2
Ond ni chaiff CBC y Gogledd fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—
a
rheoliad 17, neu
b
y paragraff hwn.
3
Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—
a
rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y Gogledd y mae’n gymwys iddynt;
b
ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).
4
Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol—
a
aelodau CBC y Gogledd, a
b
unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.
5
Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.