xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENLL+CCyfansoddiad

RHAN 1LL+CGweithdrefn, cyfarfodydd a phleidleisio

Cadeirio cyfarfodyddLL+C

1.  Rhaid i gyfarfodydd CBC y Gogledd gael eu cadeirio gan—

(a)y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu

(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Penodi cadeirydd ac is-gadeiryddLL+C

2.—(1Yng nghyfarfod cyntaf CBC y Gogledd—

(a)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a

(b)rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor bwrdeistref sirol Conwy gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).

(2Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y Gogledd—

(a)rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu

(b)rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.

(3Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.

(4Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—

(a)yr aelodau cyngor, a

(b)unrhyw [F1aelodau eraill] sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.

(5Caiff person a benodir yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau eraill.

(6Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y Gogledd a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.

(7Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.

(8Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (6) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor bwrdeistref sirol Conwy.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfarfodydd cyffredinol blynyddolLL+C

3.  Rhaid i CBC y Gogledd o gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfarfodydd eraillLL+C

4.—(1Caiff CBC y Gogledd gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.

(2Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y Gogledd gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

CworwmLL+C

5.  Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Gogledd onid yw—

(a)yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

[F2(i)rheoliad 8(2B);

(ia)rheoliad 17, neu]

(ii)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a

(b)mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Y weithdrefn bleidleisioLL+C

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Gogledd—

[F3(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,]

(b)un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,

(c)mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a

(d)os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.

(2Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.

(3Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff (1)(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanolLL+C

7.—(1Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y Gogledd fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.

(2Ond ni chaiff CBC y Gogledd fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)y paragraff hwn.

(3Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y Gogledd y mae’n gymwys iddynt;

(b)ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).

[F4(3A) Caiff gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth i aelod cyngor neu aelod Eryri o CBC y Gogledd bleidleisio drwy ddirprwy.]

[F5(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.]

(5Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.

Rheolau sefydlogLL+C

8.—(1Rhaid i CBC y Gogledd wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.

(2Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)