Enwi a dod i rymI151

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.

3

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—

a

rheoliad 11;

b

rheoliad 12;

c

rheoliad 13;

d

rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth gan reoliad F8...12 neu 13.

DehongliI92

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aelod Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons member”) yw’r aelod a benodir o dan F15reoliad 8(1);

    F13mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1);

    ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);

    F6ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(3);

    F9...2

    F6ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons National Park Authority”) yw’r awdurdod a sefydlwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw gan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803);

    ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—

    1. a

      y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);

    2. b

      wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;

    ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—

    1. a

      cyngor sir Ceredigion;

    2. b

      cyngor sir Powys;

    F13...

    ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;

    ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;

    ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—

    1. a

      swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 20043 (gweler rheoliad 13), a

    2. b

      unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

RHAN 1Sefydlu ac ardal

SefydluI73

1

Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (“CBC y Canolbarth”) wedi ei sefydlu.

2

Mae gan CBC y Canolbarth y swyddogaethau—

a

a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a

b

a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.

3

Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

ArdalI34

Mae ardal CBC y Canolbarth wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Cyfansoddiad

CyfansoddiadI55

Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y Canolbarth.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3Aelodaeth

AelodaethI166

1

Aelodau CBC y Canolbarth yw—

a

y 2 aelod cyngor, F21...

b

aelod Bannau Brycheiniog. F1, ac

F4c

unrhyw aelod cyfetholedig.

2

Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Canolbarth F20, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2).

F183

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

4

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Canolbarth (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog F17ac unrhyw aelod cyfetholedig oni bai bod—

a

darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

b

y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngorI17

1

Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

a

yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

b

y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y Canolbarth.

F52

Pan fo person sy’n aelod cyngor o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod cyngor am unrhyw gyfnod, caiff y cyngor cyfansoddol y mae P yn aelod ohono benodi aelod o’i weithrediaeth i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Canolbarth am y cyfnod hwnnw.

2A

At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai’n aelod cyngor o CBC y Canolbarth.

2B

Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod cyngor fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.

2C

Ym mharagraff (2) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—

a

wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Canolbarth, neu

b

wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r cyngor cyfansoddol y mae P hefyd yn aelod ohono.

3

Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Canolbarth hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Aelod Bannau BrycheiniogI68

1

Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Canolbarth (“aelod Bannau Brycheiniog”).

2

Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog yw—

a

cadeirydd yr Awdurdod,

b

dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

c

cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

F72A

Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

a

y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13;

b

unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

2B

Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Canolbarth—

a

os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog yn F19yn unfrydol, neu

b

os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

2C

Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog i weithredu.

F163

Pan fo person sy’n aelod Bannau Brycheiniog o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod Bannau Brycheiniog am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (2) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Canolbarth am y cyfnod hwnnw.

4

At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (3) i’w drin fel pe bai’n aelod Bannau Brycheiniog o CBC y Canolbarth.

5

Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod Bannau Brycheiniog fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.

6

Ym mharagraff (3) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—

a

wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Canolbarth, neu

b

wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

F12Aelodau cyfetholedigI29

1

Caiff CBC y Canolbarth gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Canolbarth (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.

2

Rhaid i’r telerau hynny—

a

pennu—

i

swyddogaethau CBC y Canolbarth y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a

ii

unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;

b

cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill F10sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad, ac

c

cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.

3

Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—

a

y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13, a

b

unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.

4

Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—

a

am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu

b

hyd nes—

i

y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Canolbarth, neu

ii

y bydd CBC y Canolbarth yn terfynu’r cyfetholiad.

5

Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—

a

caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;

b

rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Canolbarth.

F2Anghymhwysiad rhag bod yn aelod cyfetholedig9A

1

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y Canolbarth os yw’r person—

a

yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—

i

CBC y Canolbarth;

ii

is-bwyllgor i CBC y Canolbarth;

iii

deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu

b

wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—

i

cyngor cyfansoddol;

ii

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).

Rhannu swyddI410

Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

a

rheoliad 7(1), neu

b

rheoliad 8(2),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4Swyddogaethau

Llesiant economaiddI1311

Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y Canolbarth (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 11 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(a)

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaethI812

1

Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 20004, mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y Canolbarth, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

2

Mae Rhan 2 o Ddeddf Trefnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y Canolbarth a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 20215.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 12 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(b)

Swyddogaethau cynllunio strategolI1113

Mae gan CBC y Canolbarth y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y Canolbarth (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 13 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(c)

Is-bwerauI1014

1

Caniateir i CBC y Canolbarth wneud unrhyw beth—

a

i hwyluso, neu

b

sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

2

Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

a

mynd i wariant;

b

codi ffioedd;

c

caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

F14Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraillI18I1415

Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—

a

cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

b

y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—

i

mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));

ii

cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);

iii

cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);

iv

cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

v

tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;

vi

mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;

vii

cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;

viii

cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;

c

cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).

RHAN 5Ariannu

Cyfrifo gofynion cyllidebI1716

1

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y Canolbarth gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—

a

ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a

b

ei swyddogaethau eraill.

2

Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—

a

y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);

b

y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;

c

y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;

d

unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.

3

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y Canolbarth hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd i’w priodoli i—

a

ei swyddogaethau cynllunio strategol, a

b

ei swyddogaethau eraill.

4

Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Canolbarth ar gyfer y flwyddyn ariannol.

5

Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Canolbarth ar gyfer y flwyddyn ariannol.

6

Rhaid i CBC y Canolbarth —

a

cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a

b

cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,

yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.

7

Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.

8

Caiff CBC y Canolbarth ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y Canolbarth o ganlyniad i hynny.

9

Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y Canolbarth.

Annotations:
Commencement Information
I17

Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Ariannu gofyniad cyllidebI1217

1

Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Canolbarth gael ei dalu i CBC y Canolbarth gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.

2

Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC Canolbarth gael ei dalu i CBC y Canolbarth gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol F3yr aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog.

3

Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

4

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.

F11Cronfa Gyffredinol17A

1

Rhaid i CBC y Canolbarth sefydlu a chynnal cronfa o’r enw cronfa gyffredinol CBC y Canolbarth.

2

Rhaid i unrhyw symiau a geir gan CBC y Canolbarth (gan gynnwys symiau a geir o dan reoliad 17(1) neu (2)) gael eu talu i mewn i’w gronfa gyffredinol.

3

Rhaid i bob taliad a wneir gan CBC y Canolbarth gael ei wneud allan o’i gronfa gyffredinol.

4

Rhaid i CBC y Canolbarth gadw cyfrif o dderbyniadau a delir i mewn i’w gronfa gyffredinol, a thaliadau a wneir allan o’r gronfa honno.

5

Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i unrhyw symiau sydd i’w talu i mewn i, neu allan o, gronfa allanol o fewn yr ystyr a roddir i “external fund” gan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (cronfeydd allanol).

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru