RHAN 3LL+CAelodaeth

AelodaethLL+C

6.—(1Aelodau CBC y Canolbarth yw—

(a)y 2 aelod cyngor, F1...

(b)aelod Bannau Brycheiniog. [F2, ac]

[F3(c)unrhyw aelod cyfetholedig.]

(2Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Canolbarth [F4, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)].

F5(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Canolbarth (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog [F6ac unrhyw aelod cyfetholedig] oni bai bod—

(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngorLL+C

7.—(1Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y Canolbarth.

(2Pan fo aelod cyngor yn anabl i [F7weithredu fel aelod cyngor] am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i [F8weithredu] ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.

(3Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Canolbarth hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Aelod Bannau BrycheiniogLL+C

8.—(1Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Canolbarth (“aelod Bannau Brycheiniog”).

(2Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog yw—

(a)cadeirydd yr Awdurdod,

(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

[F9(2A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13;

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

(2B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Canolbarth—

(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog yn cytuno, neu

(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog i weithredu.]

(3Pan fo aelod Bannau Brycheiniog yn anabl i [F10weithredu fel aelod] am unrhyw gyfnod, rhaid i’r Awdurdod benodi un o’r deiliaid swyddi eraill a grybwyllir ym mharagraff (2) i [F11weithredu] ar ran aelod Bannau Brycheiniog am y cyfnod hwnnw.

[F12Aelodau cyfetholedigLL+C

9.(1) Caiff CBC y Canolbarth gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Canolbarth (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.

(2) Rhaid i’r telerau hynny—

(a)pennu—

(i)swyddogaethau CBC y Canolbarth y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a

(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;

(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac

(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.

(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13, a

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.

(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—

(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu

(b)hyd nes—

(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Canolbarth, neu

(ii)y bydd CBC y Canolbarth yn terfynu’r cyfetholiad.

(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—

(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Canolbarth.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Rhannu swyddLL+C

10.  Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

(a)rheoliad 7(1), neu

(b)rheoliad 8(2),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)