SefydluLL+C
3.—(1) Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (“CBC y Canolbarth”) wedi ei sefydlu.
(2) Mae gan CBC y Canolbarth y swyddogaethau—
(a)a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a
(b)a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.
(3) Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)