7.—(1) Yn achos pob cyngor cyfansoddol—
(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;
(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,
yw’r aelod cyngor o CBC y Canolbarth.
[F1(2) Pan fo person sy’n aelod cyngor o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod cyngor am unrhyw gyfnod, caiff y cyngor cyfansoddol y mae P yn aelod ohono benodi aelod o’i weithrediaeth i fod yn aelod dirprwyol o CBC y Canolbarth am y cyfnod hwnnw.
(2A) At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai’n aelod cyngor o CBC y Canolbarth.
(2B) Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod cyngor fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.
(2C) Ym mharagraff (2) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—
(a)wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y Canolbarth, neu
(b)wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r cyngor cyfansoddol y mae P hefyd yn aelod ohono.]
(3) Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Canolbarth hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 7(2)-(2C) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 7(2) (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 5(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)