9.—(1) Caiff yr aelodau o CBC y Canolbarth gyfethol y personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol—
(a)yn aelodau o un o gyd-bwyllgorau CBC y Canolbarth;
(b)i gyfranogi yng ngweithgareddau eraill CBC y Canolbarth
(2) Pan fo person yn cael ei gyfethol o dan baragraff (1) rhaid i’r aelodau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person am y cyfetholiad.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at berson a gyfetholir o dan baragraff (1) fel “cyfranogwr cyfetholedig”.
(4) Nid oes gan gyfranogwr cyfetholedig ond hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw faterion a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (2).
(5) Cyfetholir cyfranogwr cyfetholedig—
(a)am gyfnod a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad o roddir o dan baragraff (2),
(b)hyd nes y terfynir y cyfetholiad gan yr aelodau drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig, neu
(c)hyd nes y bo’r cyfranogwr cyfetholedig yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i CBC y Canolbarth.
(6) Pan fo cyfnod wedi ei bennu o dan baragraff (5)(a), caniateir er hynny i’r aelodau derfynu cyfetholiad y cyfranogwr cyfetholedig cyn diwedd y cyfnod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig.
(7) Caiff yr aelodau o CBC y Canolbarth ddiwygio cyfetholiad o dan baragraff (1) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r cyfranogwr cyfetholedig.
(8) Caiff hysbysiad pellach gynnwys diwygiadau i—
(a)unrhyw hawl i bleidleisio a bennir o dan baragraff (4);
(b)unrhyw gyfnod a bennir o dan baragraff (5)(a).