Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021

Cyfranogwyr cyfetholedig

9.—(1Caiff yr aelodau o CBC y Canolbarth gyfethol y personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol—

(a)yn aelodau o un o gyd-bwyllgorau CBC y Canolbarth;

(b)i gyfranogi yng ngweithgareddau eraill CBC y Canolbarth

(2Pan fo person yn cael ei gyfethol o dan baragraff (1) rhaid i’r aelodau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person am y cyfetholiad.

(3Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at berson a gyfetholir o dan baragraff (1) fel “cyfranogwr cyfetholedig”.

(4Nid oes gan gyfranogwr cyfetholedig ond hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw faterion a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (2).

(5Cyfetholir cyfranogwr cyfetholedig—

(a)am gyfnod a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad o roddir o dan baragraff (2),

(b)hyd nes y terfynir y cyfetholiad gan yr aelodau drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig, neu

(c)hyd nes y bo’r cyfranogwr cyfetholedig yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i CBC y Canolbarth.

(6Pan fo cyfnod wedi ei bennu o dan baragraff (5)(a), caniateir er hynny i’r aelodau derfynu cyfetholiad y cyfranogwr cyfetholedig cyn diwedd y cyfnod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig.

(7Caiff yr aelodau o CBC y Canolbarth ddiwygio cyfetholiad o dan baragraff (1) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r cyfranogwr cyfetholedig.

(8Caiff hysbysiad pellach gynnwys diwygiadau i—

(a)unrhyw hawl i bleidleisio a bennir o dan baragraff (4);

(b)unrhyw gyfnod a bennir o dan baragraff (5)(a).