Rheoliad 5

YR ATODLENLL+CCyfansoddiad

RHAN 1LL+CGweithdrefn, cyfarfodydd a phleidleisio

Cadeirio cyfarfodyddLL+C

1.  Rhaid i gyfarfodydd CBC y Canolbarth gael eu cadeirio gan—

(a)y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu

(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.

Penodi cadeirydd ac is-gadeiryddLL+C

2.—(1Yng nghyfarfod cyntaf CBC y Canolbarth—

(a)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a

(b)rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor sir Ceredigion gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).

(2Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y Canolbarth —

(a)rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu

(b)rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.

(3Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.

(4Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—

(a)yr aelodau cyngor, a

(b)unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.

(5Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y Canolbarth a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.

(6Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.

(7Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (5) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor sir Ceredigion.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfarfodydd cyffredinol blynyddolLL+C

3.  Rhaid i CBC y Canolbarth gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfarfodydd eraillLL+C

4.—(1Caiff CBC y Canolbarth gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.

(2Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y Canolbarth gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

CworwmLL+C

5.  Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Canolbarth onid yw—

(a)yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(i)rheoliad 17, neu

(ii)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a

(b)mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Y weithdrefn bleidleisioLL+C

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Canolbarth—

(a)ni chaiff nifer y cyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio,

(b)un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,

(c)mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a

(d)os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.

(2Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.

(3Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff 1(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanolLL+C

7.—(1Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y Canolbarth fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.

(2Ond ni chaiff CBC y Canolbarth fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)y paragraff hwn.

(3Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y Canolbarth y mae’n gymwys iddynt;

(b)ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).

(4Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol—

(a)aelodau CBC y Canolbarth, a

(b)unrhyw gyfranogwyr cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.

(5Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Rheolau sefydlogLL+C

8.—(1Rhaid i CBC y Canolbarth wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.

(2Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CStaff

CyffredinolLL+C

9.  Caiff CBC y Canolbarth wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a

(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Telerau ac amodauLL+C

10.—(1Pan fo CBC y Canolbarth yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y Canolbarth.

(2Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal CBC y Canolbarth rhag addasu unrhyw delerau ac amodau os yw hynny’n angenrheidiol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Staff o awdurdodau eraillLL+C

11.—(1Caniateir i awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006(2)) ymrwymo i gytundeb gyda CBC y Canolbarth ar gyfer rhoi staff yr awdurdod at ddefnydd CBC y Canolbarth at ddibenion arfer ei swyddogaethau, o dan unrhyw delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y Canolbarth yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y Canolbarth at ddibenion—

(a)y Rheoliadau hyn;

(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;

(c)unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y Canolbarth neu ag arfer ei swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. para. 11 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Rhoi staff at ddefnydd awdurdodau eraillLL+C

12.—(1Caiff CBC y Canolbarth ymrwymo i gytundeb gydag—

(a)cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);

(b)awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),

ar gyfer rhoi staff CBC y Canolbarth at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2Pan fo aelod o staff CBC y Canolbarth yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—

(a)at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y Canolbarth, a

(b)at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. para. 12 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Ymgynghori â staff ynghylch cytundebau o dan baragraff 11 neu 12LL+C

13.  Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. para. 13 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Trosglwyddo staffLL+C

14.  Pan fo aelod o staff a benodir gan CBC y Canolbarth wedi ei drosglwyddo i’r CBC o gyngor cyfansoddol, mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(3) ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10 yn gymwys i’r trosglwyddiad, pa un a yw’n drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. para. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CIs-bwyllgorau

Is-bwyllgorauLL+C

15.—(1Caiff CBC y Canolbarth —

(a)sefydlu is-bwyllgorau;

(b)penodi’r canlynol yn aelodau o is-bwyllgor—

(i)aelodau o CBC y Canolbarth;

(ii)cyfranogwyr cyfetholedig (gweler rheoliad 9).

(2Ni chaiff is-bwyllgor ond arfer y swyddogaethau hynny a ddirprwyir iddo gan CBC y Canolbarth (ond gweler rheoliad 15 a pharagraff 16).

(3Rhaid nodi gweithdrefnau is-bwyllgor, gan gynnwys unrhyw weithdrefnau pleidleisio pan fo hynny’n briodol, yn y rheolau sefydlog.

Is-bwyllgor Llywodraethu ac ArchwilioLL+C

16.—(1Rhaid i CBC y Canolbarth sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—

(a)adolygu materion ariannol CBC y Canolbarth a chraffu arnynt;

(b)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y Canolbarth;

(c)adolygu ac asesu trefniadau CBC y Canolbarth ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol;

(d)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y Canolbarth ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;

(e)goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y Canolbarth;

(f)adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y Canolbarth;

(g)arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y Canolbarth.

(2Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y Canolbarth sicrhau—

(a)bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,

(b)y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac

(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)yn aelod cyngor,

(ii)yn gyfranogwr cyfetholedig, nac

(iii)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.

(3Yn is-baragraff (2), ystyr “cyfranogwr cyfetholedig” yw person a gyfetholir—

(a)yn aelod o is-bwyllgor ac eithrio’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, neu

(b)i gyfranogi yng ngweithgareddau CBC y Canolbarth ac eithrio gweithgareddau’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(4Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).

(5Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. para. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

(2)

2006 p. 32. Gweler adran 157A ac Atodlen 9A fel y’u mewnosodwyd gan adran 4 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac Atodlen 3 iddi.