2021 Rhif 343 (Cy. 97)
Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 74, 83 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20211.

Mae gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (sy’n ymwneud ag ymgynghori) wedi eu bodloni.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol ag adran 174(4) a (5)(i) a (k) o’r Ddeddf honno.