RHAN 4Swyddogaethau
Llesiant economaidd
11. Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y De-ddwyrain (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).
Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth
12.—(1) Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y De-ddwyrain, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.
(2) Mae Rhan 2 o Deddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y De-ddwyrain a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021().
Swyddogaethau cynllunio strategol
13. Mae gan CBC y De-ddwyrain y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y De-ddwyrain (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).
Is-bwerau
14.—(1) Caniateir i CBC y De-ddwyrain wneud unrhyw beth—
(a)i hwyluso, neu
(b)sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,
arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.
(2) Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—
(a)mynd i wariant;
(b)codi ffioedd;
(c)caffael neu waredu eiddo neu hawliau.
Dirprwyo swyddogaethau
15.—(1) Caiff CBC y De-ddwyrain ddirprwyo swyddogaethau i is-bwyllgor yn ddarostyngedig i—
(a)paragraff (2);
(b)unrhyw ddeddfiad arall sy’n cael yr effaith o wahardd dirprwyo o’r fath neu gyfyngu arno.
(2) Ni chaiff CBC y De-ddwyrain ddirprwyo’r swyddogaethau a gynhwysir yn y darpariaethau a ganlyn—
(a)rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig);
(b)rheoliad 12(1) (datblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000);
(c)rheoliad 13 (llunio cynllun datblygu strategol);
(d)rheoliad 16 (cyfrifo’r gyllideb);
(e)rheoliad 17 (ariannu gofyniad y gyllideb);
(f)paragraff 2 o’r Atodlen (penodi a chadarnhau cadeirydd ac is-gadeirydd);
(g)paragraff 7 o’r Atodlen (gweithdrefn bleidleisio wahanol);
(h)paragraff 8 o’r Atodlen (gwneud, amrywio a dirymu rheolau sefydlog);
(i)paragraff 15 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgorau);
(j)paragraff 16 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio).