YR ATODLENCyfansoddiad
RHAN 2Staff
Cyffredinol
9.
Caiff CBC y De-ddwyrain wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—
(a)
darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a
(b)
Telerau ac amodau
10.
(1)
Pan fo CBC y De-ddwyrain yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y De-ddwyrain.
(2)
Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal CBC y De-ddwyrain rhag addasu unrhyw delerau ac amodau os yw hynny’n angenrheidiol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
Staff o awdurdodau eraill
11.
(1)
(2)
Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y De-ddwyrain yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y De-ddwyrain at ddibenion—
(a)
y Rheoliadau hyn;
(b)
paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;
(c)
unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y De-ddwyrain neu ag arfer ei swyddogaethau.
Rhoi staff at ddefnydd awdurdodau eraill
12.
(1)
Caiff CBC y De-ddwyrain ymrwymo i gytundeb gydag—
(a)
cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);
(b)
awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),
ar gyfer rhoi staff CBC y De-ddwyrain at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.
(2)
Pan fo aelod o staff CBC y De-ddwyrain yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—
(a)
at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y De-ddwyrain, a
(b)
at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.
Ymgynghori â staff ynghylch cytundebau o dan baragraff 11 neu 12
13.
Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.