xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Archwilydd Cyffredinol Cymru, (sefydlwyd swyddfa’r Archwilydd gan adran 90 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) – sydd erbyn hyn wedi ei ddisodli gan adran 145 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), gan gynnwys gwneud darpariaeth ynghylch archwilio cyfrifon cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae adran 12(1) o Ddeddf 2004 yn rhestru’r cyrff llywodraeth leol yng Nghymru y mae Rhan 2 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddynt. Mae adran 12(2) o’r Ddeddf honno yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy Orchymyn, i ddiwygio’r rhestr honno.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy Reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 at y rhestr yn adran 12(1) o Ddeddf 2004. Mae’r Gorchymyn hefyd yn gwneud mân ddarpariaeth ganlyniadol ac atodol.

Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff corfforedig sy’n cynnwys yr awdurdodau lleol hynny yng Nghymru a bennir mewn Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig ac, o dan rai amgylchiadau, awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Nghymru os yw’r Rheoliadau hynny yn gwneud darpariaeth i’r perwyl hwnnw.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.