xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8.—(1) Rhaid i’r Cyngor gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn atal dros dro interim i’r person y mae’n cael ei wneud mewn perthynas ag ef o fewn 3 diwrnod gwaith i’r dyddiad y gwneir y gorchymyn.
(2) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)testun y gorchymyn,
(b)disgrifiad o effaith y gorchymyn,
(c)rhesymau’r Cyngor dros wneud y gorchymyn, a
(d)esboniad o hawl y person cofrestredig i ofyn bod y Cyngor yn cynnull gwrandawiad i adolygu’r gorchymyn yn unol ag erthygl 12.
(3) Rhaid i’r Cyngor gyflwyno hysbysiad o’r gorchymyn i gyflogwr neu gyflogwyr presennol neu gyflogwr neu gyflogwyr diwethaf y person cofrestredig a, phan fo’n berthnasol, yr asiant neu’r asiantau.