Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.

3

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—

a

rheoliad 11;

b

rheoliad 12;

c

rheoliad 13;

d

rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin gan reoliad 11, 12 neu 13.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aelod Arfordir Penfro” (“the Pembrokeshire Coast member”) yw’r aelod a benodir o dan reoliad 8(1);

  • ystyr “aelod Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons member”) yw’r aelod a benodir o dan reoliad 8;

  • ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);

  • ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park Authority”) yw awdurdod yng Nghymru a sefydlir o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 19952;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—

    1. a

      y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);

    2. b

      wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;

  • ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—

    1. a

      cyngor sir Abertawe;

    2. b

      cyngor Castell-nedd Port Talbot

    3. c

      cyngor sir Gaerfyrddin;

    4. d

      cyngor sir Penfro;

  • mae i “cyfranogwr cyfetholedig” (“co-opted participant”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(3);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;

  • ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;

  • ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—

    1. a

      swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 20043 (gweler rheoliad 13), a

    2. b

      unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

RHAN 1Sefydlu ac ardal

Sefydlu3

1

Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (“CBC y De-orllewin”) wedi ei sefydlu.

2

Mae gan CBC y De-orllewin y swyddogaethau—

a

a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a

b

a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.

3

Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.

Ardal4

Mae ardal CBC y De-orllewin wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.

RHAN 2Cyfansoddiad

Cyfansoddiad5

Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y De-orllewin.

RHAN 3Aelodaeth

Aelodaeth6

1

Aelodau CBC y De-orllewin yw—

a

y 4 aelod cyngor,

b

aelod Bannau Brycheiniog, a

c

aelod Arfordir Penfro.

2

Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y De-orllewin.

3

Ond nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro i’r graddau y mae’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol.

4

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y De-orllewin (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3), oni bai bod—

a

darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

b

y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngor7

1

Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

a

yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

b

y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y De-orllewin.

2

Pan fo aelod cyngor yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.

3

Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y De-orllewin hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Aelod Bannau Brycheiniog ac Aelod Arfordir Penfro8

1

Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Bannau Brycheiniog”).

2

Rhaid i Awdurdod Parc Arfordir Penfro benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Arfordir Penfro”).

3

Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro yw—

a

cadeirydd yr Awdurdod,

b

dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

c

cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

4

Pan fo aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r Awdurdod benodi un o’r deiliaid swyddi eraill a grybwyllir ym mharagraff (3) i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran aelod Bannau Brycheiniog neu Aelod Arfordir Penfro am y cyfnod hwnnw.

5

Yn is-baragraffau (3) a (4) ystyr yr “Awdurdod” yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd.

Cyfranogwyr cyfetholedig9

1

Caiff yr aelodau o CBC y De-orllewin gyfethol y personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol—

a

yn aelodau o un o gyd-bwyllgorau CBC y De-orllewin;

b

i gyfranogi yng ngweithgareddau eraill CBC y De-orllewin.

2

Pan fo person yn cael ei gyfethol o dan baragraff (1) rhaid i’r aelodau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person am y cyfetholiad.

3

Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at berson a gyfetholir o dan baragraff (1) fel “cyfranogwr cyfetholedig”.

4

Nid oes gan gyfranogwr cyfetholedig ond hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw faterion a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (2).

5

Cyfetholir cyfranogwr cyfetholedig—

a

am gyfnod a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad o roddir o dan baragraff (2),

b

hyd nes y terfynir y cyfetholiad gan yr aelodau drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig, neu

c

hyd nes y bo’r cyfranogwr cyfetholedig yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i CBC y De-orllewin.

6

Pan fo cyfnod wedi ei bennu o dan baragraff (5)(a), caniateir er hynny i’r aelodau derfynu cyfetholiad y cyfranogwr cyfetholedig cyn diwedd y cyfnod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig.

7

Caiff yr aelodau o CBC y De-orllewin ddiwygio cyfetholiad o dan baragraff (1) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r cyfranogwr cyfetholedig.

8

Caiff hysbysiad pellach gynnwys diwygiadau i—

a

unrhyw hawl i bleidleisio a bennir o dan baragraff (4);

b

unrhyw gyfnod a bennir o dan baragraff (5)(a).

Rhannu swydd10

Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

a

rheoliad 7(1), neu

b

rheoliad 8(3),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.

RHAN 4Swyddogaethau

Llesiant economaidd11

Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y De-orllewin (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth12

1

Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 20004, mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y De-orllewin, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

2

Mae Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y De-orllewin a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 20215.

Swyddogaethau cynllunio strategol13

Mae gan CBC y De-orllewin y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y De-orllewin (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Is-bwerau14

1

Caniateir i CBC y De-orllewin wneud unrhyw beth—

a

i hwyluso, neu

b

sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

2

Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

a

mynd i wariant;

b

codi ffioedd;

c

caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Dirprwyo swyddogaethau15

1

Caiff CBC y De-orllewin ddirprwyo swyddogaethau i is-bwyllgor yn ddarostyngedig i—

a

paragraff (2);

b

unrhyw ddeddfiad arall sy’n cael yr effaith o wahardd dirprwyo o’r fath neu gyfyngu arno.

2

Ni chaiff CBC y De-orllewin ddirprwyo’r swyddogaethau a gynhwysir yn y darpariaethau a ganlyn—

a

rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig);

b

rheoliad 12(1) (datblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000);

c

rheoliad 13 (llunio cynllun datblygu strategol);

d

rheoliad 16 (cyfrifo’r gyllideb);

e

rheoliad 17 (ariannu gofyniad y gyllideb);

f

paragraff 2 o’r Atodlen (penodi a chadarnhau cadeirydd ac is-gadeirydd);

g

paragraff 7 o’r Atodlen (gweithdrefn bleidleisio wahanol);

h

paragraff 8 o’r Atodlen (gwneud, amrywio a dirymu rheolau sefydlog);

i

paragraff 15 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgorau);

j

paragraff 16 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio).

RHAN 5Ariannu

Cyfrifo gofynion cyllideb16

1

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y De-orllewin gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—

a

ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a

b

ei swyddogaethau eraill.

2

Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—

a

y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);

b

y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;

c

y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;

d

unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.

3

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y De-orllewin hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Benfro sydd i’w priodoli i—

a

ei swyddogaethau cynllunio strategol, a

b

ei swyddogaethau eraill.

4

Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-orllewin ar gyfer y flwyddyn ariannol.

5

Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-orllewin ar gyfer y flwyddyn ariannol.

6

Rhaid i CBC y De-orllewin—

a

cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a

b

cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,

yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.

7

Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.

8

Caiff CBC y De-orllewin ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y De-orllewin o ganlyniad i hynny.

9

Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y De-orllewin.

Ariannu gofyniad cyllideb17

1

Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-orllewin gael ei dalu i CBC y De-orllewin gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.

2

Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-orllewin gael ei dalu i CBC y De-orllewin gan y cynghorau cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau.

3

Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

4

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru