Enwi a dod i rymI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.

3

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—

a

rheoliad 11;

b

rheoliad 12;

c

rheoliad 13;

d

rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin gan reoliad F16..., 12 neu 13.

DehongliI22

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aelod Arfordir Penfro” (“the Pembrokeshire Coast member”) yw’r aelod a benodir o dan reoliad 8(1);

  • ystyr “aelod Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons member”) yw’r aelod a benodir o dan F17reoliad 8(1) ;

  • F1mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1);

  • ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);

  • F19ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(4);

  • F18...2

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—

    1. a

      y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);

    2. b

      wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;

  • ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—

    1. a

      cyngor sir Abertawe;

    2. b

      cyngor Castell-nedd Port Talbot

    3. c

      cyngor sir Gaerfyrddin;

    4. d

      cyngor sir Penfro;

  • F1...

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;

  • ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;

  • ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—

    1. a

      swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 20043 (gweler rheoliad 13), a

    2. b

      unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

RHAN 1Sefydlu ac ardal

SefydluI33

1

Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (“CBC y De-orllewin”) wedi ei sefydlu.

2

Mae gan CBC y De-orllewin y swyddogaethau—

a

a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a

b

a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.

3

Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

ArdalI44

Mae ardal CBC y De-orllewin wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Cyfansoddiad

CyfansoddiadI55

Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y De-orllewin.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3Aelodaeth

AelodaethI66

1

Aelodau CBC y De-orllewin yw—

a

y 4 aelod cyngor,

b

aelod Bannau Brycheiniog, F2...

c

aelod Arfordir Penfro F4, a

F3d

unrhyw aelod cyfetholedig.

2

Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y De-orllewin F5, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(3A) a 9(2) .

F63

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

4

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y De-orllewin (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog F7, aelod Arfordir Penfro F8ac unrhyw aelod cyfetholedig, oni bai bod—

a

darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

b

y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngorI77

1

Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

a

yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

b

y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y De-orllewin.

F202

Pan fo person sy’n aelod cyngor o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod cyngor am unrhyw gyfnod, caiff y cyngor cyfansoddol y mae P yn aelod ohono benodi aelod o’i weithrediaeth i fod yn aelod dirprwyol o CBC y De-orllewin am y cyfnod hwnnw.

2A

At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai’n aelod cyngor o CBC y De-orllewin.

2B

Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod cyngor fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.

2C

Ym mharagraff (2) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—

a

wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y De-orllewin, neu

b

wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r cyngor cyfansoddol y mae P hefyd yn aelod ohono.

3

Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y De-orllewin hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Aelod Bannau Brycheiniog ac Aelod Arfordir PenfroI88

1

Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Bannau Brycheiniog”).

2

Rhaid i Awdurdod Parc Arfordir Penfro benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Arfordir Penfro”).

3

Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro yw—

a

cadeirydd yr Awdurdod,

b

dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

c

cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

F93A

Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

a

y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13;

b

unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

3B

Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y De-orllewin—

a

os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) yn cytuno F22yn unfrydol, neu

b

os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

3C

Rhaid i gytundeb o dan baragraff (3B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro i weithredu.

F214

Pan fo person sy’n aelod Bannau Brycheiniog neu’n aelod Arfordir Penfro o dan baragraff (1) neu (2) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (3) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y De-orllewin am y cyfnod hwnnw.

5

At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (4) i’w drin fel pe bai’n aelod Bannau Brycheiniog neu’n aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) o CBC y De-orllewin.

6

Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.

7

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd;

  • ystyr “wedi ei atal dros dro” (“suspended”) yw—

    1. i

      wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y De-orllewin, neu

    2. ii

      wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol y mae P hefyd yn aelod ohono.

5

Yn is-baragraffau (3) a (4) ystyr yr “Awdurdod” yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd.

F10Aelodau cyfetholedigI99

1

Caiff CBC y De-orllewin gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y De-orllewin (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.

2

Rhaid i’r telerau hynny—

a

pennu—

i

swyddogaethau CBC y De-orllewin y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a

ii

unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;

b

cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill F23sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad, ac

c

cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.

3

Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—

a

y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13, a

b

unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

caiff aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.

4

Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—

a

am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu

b

hyd nes—

i

y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y De-orllewin, neu

ii

y bydd CBC y De-orllewin yn terfynu’r cyfetholiad.

5

Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—

a

caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;

b

rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y De-orllewin.

F15Anghymhwysiad rhag bod yn aelod cyfetholedig9A

1

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y De-orllewin os yw’r person—

a

yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—

i

CBC y De-orllewin;

ii

is-bwyllgor i CBC y De-orllewin;

iii

deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu

b

wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—

i

cyngor cyfansoddol;

ii

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

iii

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).

Rhannu swyddI1010

Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

a

rheoliad 7(1), neu

b

rheoliad 8(3),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4Swyddogaethau

Llesiant economaiddI1811

Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y De-orllewin (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Annotations:
Commencement Information
I18

Rhl. 11 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(a)

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaethI1112

1

Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 20004, mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y De-orllewin, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

2

Mae Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y De-orllewin a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 20215.

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 12 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(b)

Swyddogaethau cynllunio strategolI1213

Mae gan CBC y De-orllewin y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y De-orllewin (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 13 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(c)

Is-bwerauI1314

1

Caniateir i CBC y De-orllewin wneud unrhyw beth—

a

i hwyluso, neu

b

sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

2

Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

a

mynd i wariant;

b

codi ffioedd;

c

caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

F11Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraillI14I1515

Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—

a

cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

b

y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—

i

mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));

ii

cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);

iii

cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);

iv

cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

v

tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;

vi

mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;

vii

cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;

viii

cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;

c

cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).

RHAN 5Ariannu

Cyfrifo gofynion cyllidebI1616

1

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y De-orllewin gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—

a

ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a

b

ei swyddogaethau eraill.

2

Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—

a

y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);

b

y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;

c

y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;

d

unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.

3

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y De-orllewin hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Benfro sydd i’w priodoli i—

a

ei swyddogaethau cynllunio strategol, a

b

ei swyddogaethau eraill.

4

Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-orllewin ar gyfer y flwyddyn ariannol.

5

Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-orllewin ar gyfer y flwyddyn ariannol.

6

Rhaid i CBC y De-orllewin—

a

cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a

b

cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,

yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.

7

Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.

8

Caiff CBC y De-orllewin ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y De-orllewin o ganlyniad i hynny.

9

Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y De-orllewin.

Annotations:
Commencement Information
I16

Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Ariannu gofyniad cyllidebI1717

1

Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-orllewin gael ei dalu i CBC y De-orllewin gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.

2

Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-orllewin gael ei dalu i CBC y De-orllewin gan y cynghorau cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan F12bob Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol F13yr aelodau cyngor, aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro.

3

Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

4

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.

F14Cronfa Gyffredinol17A

1

Rhaid i CBC y De-orllewin sefydlu a chynnal cronfa o’r enw cronfa gyffredinol CBC y De-orllewin.

2

Rhaid i unrhyw symiau a geir gan CBC y De-orllewin (gan gynnwys symiau a geir o dan reoliad 17(1) neu (2)) gael eu talu i mewn i’w gronfa gyffredinol.

3

Rhaid i bob taliad a wneir gan CBC y De-orllewin gael ei wneud allan o’i gronfa gyffredinol.

4

Rhaid i CBC y De-orllewin gadw cyfrif o dderbyniadau a delir i mewn i’w gronfa gyffredinol, a thaliadau a wneir allan o’r gronfa honno.

5

Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i unrhyw symiau sydd i’w talu i mewn i, neu allan o, gronfa allanol o fewn yr ystyr a roddir i “external fund” gan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (cronfeydd allanol).

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru