Search Legislation

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 3Aelodaeth

Aelodaeth

6.—(1Aelodau CBC y De-orllewin yw—

(a)y 4 aelod cyngor,

(b)aelod Bannau Brycheiniog, a

(c)aelod Arfordir Penfro.

(2Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y De-orllewin.

(3Ond nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro i’r graddau y mae’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol.

(4Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y De-orllewin (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3), oni bai bod—

(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngor

7.—(1Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y De-orllewin.

(2Pan fo aelod cyngor yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.

(3Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y De-orllewin hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Aelod Bannau Brycheiniog ac Aelod Arfordir Penfro

8.—(1Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Bannau Brycheiniog”).

(2Rhaid i Awdurdod Parc Arfordir Penfro benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Arfordir Penfro”).

(3Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro yw—

(a)cadeirydd yr Awdurdod,

(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

(4Pan fo aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r Awdurdod benodi un o’r deiliaid swyddi eraill a grybwyllir ym mharagraff (3) i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran aelod Bannau Brycheiniog neu Aelod Arfordir Penfro am y cyfnod hwnnw.

(5Yn is-baragraffau (3) a (4) ystyr yr “Awdurdod” yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd.

Cyfranogwyr cyfetholedig

9.—(1Caiff yr aelodau o CBC y De-orllewin gyfethol y personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol—

(a)yn aelodau o un o gyd-bwyllgorau CBC y De-orllewin;

(b)i gyfranogi yng ngweithgareddau eraill CBC y De-orllewin.

(2Pan fo person yn cael ei gyfethol o dan baragraff (1) rhaid i’r aelodau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person am y cyfetholiad.

(3Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at berson a gyfetholir o dan baragraff (1) fel “cyfranogwr cyfetholedig”.

(4Nid oes gan gyfranogwr cyfetholedig ond hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw faterion a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (2).

(5Cyfetholir cyfranogwr cyfetholedig—

(a)am gyfnod a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad o roddir o dan baragraff (2),

(b)hyd nes y terfynir y cyfetholiad gan yr aelodau drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig, neu

(c)hyd nes y bo’r cyfranogwr cyfetholedig yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i CBC y De-orllewin.

(6Pan fo cyfnod wedi ei bennu o dan baragraff (5)(a), caniateir er hynny i’r aelodau derfynu cyfetholiad y cyfranogwr cyfetholedig cyn diwedd y cyfnod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig.

(7Caiff yr aelodau o CBC y De-orllewin ddiwygio cyfetholiad o dan baragraff (1) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r cyfranogwr cyfetholedig.

(8Caiff hysbysiad pellach gynnwys diwygiadau i—

(a)unrhyw hawl i bleidleisio a bennir o dan baragraff (4);

(b)unrhyw gyfnod a bennir o dan baragraff (5)(a).

Rhannu swydd

10.  Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

(a)rheoliad 7(1), neu

(b)rheoliad 8(3),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources