Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 352 (Cy. 104)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021

Gwnaed

17 Mawrth 2021

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 74, 83 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).

Mae gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (sy’n ymwneud ag ymgynghori) wedi eu bodloni.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol ag adran 174(4) a (5)(i) a (k) o’r Ddeddf honno.

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.

(3Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—

(a)rheoliad 11;

(b)rheoliad 12;

(c)rheoliad 13;

(d)rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin gan reoliad F1..., 12 neu 13.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod Arfordir Penfro” (“the Pembrokeshire Coast member”) yw’r aelod a benodir o dan reoliad 8(1);

ystyr “aelod Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons member”) yw’r aelod a benodir o dan [F2reoliad 8(1)] ;

[F3mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); ]

ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);

[F4ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(4);]

F5...(2)

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—

(a)

y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);

(b)

wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;

ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—

(a)

cyngor sir Abertawe;

(b)

cyngor Castell-nedd Port Talbot

(c)

cyngor sir Gaerfyrddin;

(d)

cyngor sir Penfro;

F3...

ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;

ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;

ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—

(a)

swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(3) (gweler rheoliad 13), a

(b)

unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

RHAN 1LL+CSefydlu ac ardal

SefydluLL+C

3.—(1Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (“CBC y De-orllewin”) wedi ei sefydlu.

(2Mae gan CBC y De-orllewin y swyddogaethau—

(a)a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a

(b)a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.

(3Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

ArdalLL+C

4.  Mae ardal CBC y De-orllewin wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CCyfansoddiad

CyfansoddiadLL+C

5.  Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y De-orllewin.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CAelodaeth

AelodaethLL+C

6.—(1Aelodau CBC y De-orllewin yw—

(a)y 4 aelod cyngor,

(b)aelod Bannau Brycheiniog, F6...

(c)aelod Arfordir Penfro [F7, a]

[F8(d)unrhyw aelod cyfetholedig.]

(2Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y De-orllewin [F9, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(3A) a 9(2)] .

F10(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y De-orllewin (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog [F11, ]aelod Arfordir Penfro [F12ac unrhyw aelod cyfetholedig], oni bai bod—

(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngorLL+C

7.—(1Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y De-orllewin.

[F13(2) Pan fo person sy’n aelod cyngor o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod cyngor am unrhyw gyfnod, caiff y cyngor cyfansoddol y mae P yn aelod ohono benodi aelod o’i weithrediaeth i fod yn aelod dirprwyol o CBC y De-orllewin am y cyfnod hwnnw.

(2A) At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai’n aelod cyngor o CBC y De-orllewin.

(2B) Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod cyngor fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.

(2C) Ym mharagraff (2) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—

(a)wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y De-orllewin, neu

(b)wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r cyngor cyfansoddol y mae P hefyd yn aelod ohono.]

(3Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y De-orllewin hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Aelod Bannau Brycheiniog ac Aelod Arfordir PenfroLL+C

8.—(1Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Bannau Brycheiniog”).

(2Rhaid i Awdurdod Parc Arfordir Penfro benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Arfordir Penfro”).

(3Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro yw—

(a)cadeirydd yr Awdurdod,

(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

[F14(3A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13;

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

(3B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y De-orllewin—

(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) yn cytuno [F15yn unfrydol], neu

(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

(3C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (3B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro i weithredu.]

[F16(4) Pan fo person sy’n aelod Bannau Brycheiniog neu’n aelod Arfordir Penfro o dan baragraff (1) neu (2) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (3) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y De-orllewin am y cyfnod hwnnw.

(5) At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (4) i’w drin fel pe bai’n aelod Bannau Brycheiniog neu’n aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) o CBC y De-orllewin.

(6) Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.

(7) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd;

ystyr “wedi ei atal dros dro” (“suspended”) yw—

(i)

wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y De-orllewin, neu

(ii)

wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol y mae P hefyd yn aelod ohono.]

(5Yn is-baragraffau (3) a (4) ystyr yr “Awdurdod” yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd.

Diwygiadau Testunol

F16Rhl. 8(4)-(7) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 8(4)(5) (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 8(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

[F17Aelodau cyfetholedigLL+C

9.(1) Caiff CBC y De-orllewin gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y De-orllewin (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.

(2) Rhaid i’r telerau hynny—

(a)pennu—

(i)swyddogaethau CBC y De-orllewin y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a

(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;

(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill [F18sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad], ac

(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.

(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13, a

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

caiff aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.

(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—

(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu

(b)hyd nes—

(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y De-orllewin, neu

(ii)y bydd CBC y De-orllewin yn terfynu’r cyfetholiad.

(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—

(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y De-orllewin.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

[F19Anghymhwysiad rhag bod yn aelod cyfetholedigLL+C

9A.(1) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y De-orllewin os yw’r person—

(a)yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—

(i)CBC y De-orllewin;

(ii)is-bwyllgor i CBC y De-orllewin;

(iii)deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu

(b)wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—

(i)cyngor cyfansoddol;

(ii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

(iii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).]

Rhannu swyddLL+C

10.  Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

(a)rheoliad 7(1), neu

(b)rheoliad 8(3),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CSwyddogaethau

Llesiant economaiddLL+C

11.  Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y De-orllewin (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(a)

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaethLL+C

12.—(1Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(4), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y De-orllewin, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

(2Mae Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y De-orllewin a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(b)

Swyddogaethau cynllunio strategolLL+C

13.  Mae gan CBC y De-orllewin y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y De-orllewin (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(c)

Is-bwerauLL+C

14.—(1Caniateir i CBC y De-orllewin wneud unrhyw beth—

(a)i hwyluso, neu

(b)sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

(2Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

(a)mynd i wariant;

(b)codi ffioedd;

(c)caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

[F20Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraillLL+C

15.  Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—

(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—

(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));

(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);

(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);

(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;

(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;

(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;

(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;

(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2021 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)

I16Rhl. 15 mewn grym ar 30.6.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(3)(d)

RHAN 5LL+CAriannu

Cyfrifo gofynion cyllidebLL+C

16.—(1Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y De-orllewin gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—

(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a

(b)ei swyddogaethau eraill.

(2Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—

(a)y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);

(b)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;

(c)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;

(d)unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.

(3Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y De-orllewin hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Benfro sydd i’w priodoli i—

(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol, a

(b)ei swyddogaethau eraill.

(4Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-orllewin ar gyfer y flwyddyn ariannol.

(5Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-orllewin ar gyfer y flwyddyn ariannol.

(6Rhaid i CBC y De-orllewin—

(a)cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a

(b)cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,

yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.

(7Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.

(8Caiff CBC y De-orllewin ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y De-orllewin o ganlyniad i hynny.

(9Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y De-orllewin.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Ariannu gofyniad cyllidebLL+C

17.—(1Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-orllewin gael ei dalu i CBC y De-orllewin gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.

(2Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-orllewin gael ei dalu i CBC y De-orllewin gan y cynghorau cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan [F21bob Awdurdod] i’w phennu drwy gytundeb unfrydol [F22yr aelodau cyngor, aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro].

(3Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

(4Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

[F23Cronfa GyffredinolLL+C

17A.(1) Rhaid i CBC y De-orllewin sefydlu a chynnal cronfa o’r enw cronfa gyffredinol CBC y De-orllewin.

(2) Rhaid i unrhyw symiau a geir gan CBC y De-orllewin (gan gynnwys symiau a geir o dan reoliad 17(1) neu (2)) gael eu talu i mewn i’w gronfa gyffredinol.

(3) Rhaid i bob taliad a wneir gan CBC y De-orllewin gael ei wneud allan o’i gronfa gyffredinol.

(4) Rhaid i CBC y De-orllewin gadw cyfrif o dderbyniadau a delir i mewn i’w gronfa gyffredinol, a thaliadau a wneir allan o’r gronfa honno.

(5) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i unrhyw symiau sydd i’w talu i mewn i, neu allan o, gronfa allanol o fewn yr ystyr a roddir i “external fund” gan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (cronfeydd allanol).]

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2021

Rheoliad 5

YR ATODLENLL+CCyfansoddiad

RHAN 1LL+CGweithdrefn, cyfarfodydd a phleidleisio

Cadeirio cyfarfodyddLL+C

1.  Rhaid i gyfarfodydd CBC y De-orllewin gael eu cadeirio gan—

(a)y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu

(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Penodi cadeirydd ac is-gadeiryddLL+C

2.—(1Yng nghyfarfod cyntaf CBC y De-orllewin—

(a)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a

(b)rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor sir Gaerfyrddin gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).

(2Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y De-orllewin—

(a)rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu

(b)rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.

(3Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.

(4Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—

(a)yr aelodau cyngor, a

(b)unrhyw [F24aelodau eraill] sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.

(5Caiff person a benodir yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau eraill.

(6Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y De-orllewin a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.

(7Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.

(8Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (6) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor sir Gaerfyrddin.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfarfodydd cyffredinol blynyddolLL+C

3.  Rhaid i CBC y De-orllewin gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfarfodydd eraillLL+C

4.—(1Caiff CBC y De-orllewin gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.

(2Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y De-orllewin gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

CworwmLL+C

5.  Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-orllewin onid yw—

(a)yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

[F25(i)rheoliad 8(3B);

(ia)rheoliad 17, neu]

(ii)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a

(b)mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Y weithdrefn bleidleisioLL+C

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-orllewin—

[F26(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,]

(b)un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,

(c)mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a

(d)os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.

(2Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.

(3Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff 1(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanolLL+C

7.—(1Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y De-orllewin fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.

(2Ond ni chaiff CBC y De-orllewin fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)y paragraff hwn.

(3Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y De-orllewin y mae’n gymwys iddynt;

(b)ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).

[F27(3A) Caiff gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth i aelod cyngor, aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro o CBC y De-orllewin bleidleisio drwy ddirprwy.]

[F28(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.]

(5Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.

Rheolau sefydlogLL+C

8.—(1Rhaid i CBC y De-orllewin wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.

(2Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CStaff

CyffredinolLL+C

9. [F29(1)]  Caiff CBC y De-orllewin wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a

(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021(6).

[F30(2) Rhaid i CBC y De-orllewin sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y De-orllewin gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Telerau ac amodauLL+C

10.—(1Pan fo CBC y De-orllewin yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y De-orllewin.

[F31(2) Ond o ran is-baragraff (1)—

(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a

(b)nid yw’n atal CBC y De-orllewin rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Staff o awdurdodau eraillLL+C

11.—(1Caniateir i awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006(7)) ymrwymo i gytundeb gyda CBC y De-orllewin ar gyfer rhoi staff yr awdurdod at ddefnydd CBC y De-orllewin at ddibenion arfer ei swyddogaethau, o dan unrhyw delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y De-orllewin yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y De-orllewin at ddibenion—

(a)y Rheoliadau hyn;

(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;

(c)unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y De-orllewin neu ag arfer ei swyddogaethau.

[F32(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y De-orllewin yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. para. 11 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Rhoi staff at ddefnydd awdurdodau eraillLL+C

12.—(1Caiff CBC y De-orllewin ymrwymo i gytundeb gydag—

(a)cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);

(b)awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),

ar gyfer rhoi staff CBC y De-orllewin at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2Pan fo aelod o staff CBC y De-orllewin yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—

(a)at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y De-orllewin, a

(b)at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. para. 12 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Ymgynghori â staff ynghylch cytundebau o dan baragraff 11 neu 12LL+C

13.  Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. para. 13 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Trosglwyddo staffLL+C

14.  Pan fo aelod o staff a benodir gan CBC y De-orllewin wedi ei drosglwyddo i’r CBC o gyngor cyfansoddol, mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(8) ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10 yn gymwys i’r trosglwyddiad, pa un a yw’n drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. para. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CIs-bwyllgorau

Is-bwyllgorauLL+C

F3315.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Is-bwyllgor Llywodraethu ac ArchwilioLL+C

16.—(1Rhaid i CBC y De-orllewin sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—

(a)adolygu materion ariannol CBC y De-orllewin a chraffu arnynt;

(b)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y De-orllewin;

(c)adolygu ac asesu trefniadau CBC y De- orllewin ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol;

(d)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y De- orllewin ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;

(e)goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y De-orllewin;

(f)adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y De-orllewin;

(g)arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y De-orllewin.

(2Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y De-orllewin sicrhau—

(a)bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,

(b)y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth [F34o] aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac

[F35(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)yn aelod cyngor,

(ii)yn aelod cyfetholedig,

(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y De-orllewin, neu

(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.]

F36(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).

(5Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i sefydlu cyrff corfforedig a elwir yn gyd-bwyllgorau corfforedig. Sefydlir y cyrff hyn er mwyn arfer swyddogaethau penodol a bennir yn y rheoliadau sy’n eu sefydlu, mewn perthynas ag ardal sy’n cynnwys ardaloedd yr awdurdodau lleol sy’n ffurfio aelodaeth y cyd-bwyllgor corfforedig (yn ogystal â hynny, pan roddir swyddogaethau mewn perthynas â chynllunio strategol i gyd-bwyllgor corfforedig, caiff awdurdod Parc Cenedlaethol fod yn aelod o’r pwyllgor hefyd).

Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu corff corfforedig a elwir yn Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin, ac yn pennu’r swyddogaethau a ganlyn fel rhai sy’n arferadwy gan y corff hwn—

(1y swyddogaeth llesiant economaidd (gweler adran 76 o Ddeddf 2021),

(2datblygu polisïau trafnidiaeth a llunio cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol o dan Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, a

(3llunio cynlluniau datblygu strategol (gweler Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004).

Mae 5 Rhan i’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 1 yn sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin, a’i ardal, ac yn diffinio rhai termau allweddol.

Mae Rhan 2 yn cyflwyno’r Atodlen i’r Rheoliadau. Mae’r Atodlen hon yn cynnwys trefniadau cyfansoddiadol Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin, gan gynnwys trefniadau ynghylch cynnal a chadeirio cyfarfodydd, pleidleisio ar benderfyniadau, sefydlu is-bwyllgorau a staffio.

Mae Rhan 3 yn nodi aelodaeth Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin. Yn unol â’r Rhan hon, bydd y corff wedi ei ffurfio o 4 aelod cyngor, un ar gyfer pob awdurdod lleol yn y de-orllewin, aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro nad oes ganddynt ond hawl i bleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â llunio cynlluniau datblygu strategol. Caiff y Pwyllgor gyfethol personau eraill (a elwir yn “cyfranogwyr cyfetholedig”) i gyfranogi ym musnes y Pwyllgor a chaiff roi hawliau pleidleisio i gyfranogwyr cyfetholedig.

Mae Rhan 4 yn pennu y caniateir arfer y 3 swyddogaeth a grybwyllir uchod gan Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin ac y caiff y Pwyllgor wneud pethau eraill i hwyluso arfer y swyddogaethau hynny neu bethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin i gyfrifo ei gyllideb a sut y mae i’w ariannu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3)

2004 p. 5. Mae Rhan 6 wedi ei diwygio gan Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).

(7)

2006 p. 32. Gweler adran 157A ac Atodlen 9A fel y’u mewnosodwyd gan adran 4 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac Atodlen 3 iddi.