- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddogfennau sy’n ymwneud â chyfarfod a gynhaliwyd, neu benderfyniad gweithrediaeth a wnaed, ar neu ar ôl 22 Ebrill 2020 a chyn diwedd 30 Ebrill 2021 yr oedd yn ofynnol iddynt barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd—
(a)o dan adran 100C o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i haddaswyd gan reoliad 21(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020(1), neu
(b)o dan reoliad 13 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001(2) fel y’u diwygiwyd gan reoliad 23(8)(e)(3) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020.
(2) Rhaid i ddogfennau y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd hyd nes y daw’r cyfnod o chwe blynedd sy’n dechrau ar ddyddiad y cyfarfod neu benderfyniad y weithrediaeth i ben.
11.—(1) Mae unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall a gyhoeddwyd neu a anfonwyd cyn 1 Mai 2021 yn unol â’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2) mewn perthynas â chyfarfod neu wrandawiad a gynhaliwyd ar neu ar ôl 1 Mai 2021, i’w trin fel pe baent wedi eu cyhoeddi neu wedi eu hanfon yn unol â’r darpariaethau hynny fel y’u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn.
(2) Dyma’r darpariaethau—
(a)adrannau 24(5) a 26(3) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 fel y’u haddaswyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020;
(b)paragraff 6(2) a (3) o Atodlen 3 i Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020;
(c)rheoliadau 26(1), (2A) a (4) a 27(1) i (3) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 fel y’u haddaswyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020;
(d)rheoliadau 4, 6, 12 ac 20 o Reoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (Gwrandawiadau) 2005;
(e)rheoliadau 5, 7 a 10 o Reoliadau Deddf Hapchwarae 2005 (Trafodion Pwyllgorau ac Is-bwyllgorau Trwyddedu) (Trwyddedau Mangreoedd a Datganiadau Dros Dro) (Cymru a Lloegr) 2007.
O.S. 2020/442 (Cy. 100)), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/653 (Cy. 150). Addaswyd adran 100C o Ddeddf 1972 dros dro, mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021, gan reoliad 21(4) o O.S. 2020/442 (Cy. 100)) fel bod adran 100C i’w darllen fel pe bai’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, is-adran (7) a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth a gyhoeddid o dan adrannau 100B a 100C o Ddeddf 1972, fel y’i haddaswyd, barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd. Diwygiwyd adran 100C ymhellach gan Ddeddf 2021, Atodlen 4, paragraff 8. Ceir diwygiadau eraill i’r adran nad yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Addaswyd rheoliad 13 o O.S. 2001/2290 dros dro, mewn perthynas â chyfarfodydd gweithrediaethau awdurdodau lleol a gynhaliwyd a phenderfyniadau gweithrediaeth a wnaed rhwng 22 Ebrill 2020 a diwedd 30 Ebrill 2021, gan reoliad 23(8)(e) o O.S. 2020/442 (Cy. 100) fel bod rheoliad 13 o O.S. 2001/2290 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys, ymhlith darpariaethau eraill, baragraff (5A) a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth a gyhoeddid yn electronig o dan reoliad 8 o O.S. 2001/2290, fel y’i haddaswyd, gael ei gadw gan yr awdurdod lleol a pharhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: