xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 371 (Cy. 114)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Bwyd, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Hadau, Cymru

Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Bodlonwyd y gofynion sifftio

22 Mawrth 2021

Gwnaed

23 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

24 Mawrth 2021

Yn dod i rym

14 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol Senedd Cymru(2) ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Ebrill 2021.

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “(8)” rhodder “(9)”;

(b)ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(9) Nid ystyrir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 5(1) o Reoliad 853/2004 nac wedi methu â chydymffurfio â’r Erthygl honno—

(a)yn achos marc iechyd neu farc adnabod—

(i)os dodwyd y marc iechyd neu’r marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a

(ii)os oedd y marc iechyd neu’r marc adnabod yn cydymffurfio ag Erthygl 5(1) fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; neu

(b)os dodir marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, ar neu ar ôl y diwrnod y daeth y Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021(5) i rym a chyn diwedd 30 Medi 2022, yn unol ag Erthygl 5(1), fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, gan ddefnyddio label, deunydd lapio neu ddeunydd pecynnu ac arno’r marc adnabod hwnnw ac sy’n perthyn i’r gweithredwr busnes bwyd yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym 2007

3.  Yn Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym 2007(6), ar ôl rheoliad 11 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE

12.  At ddiben rheoliad 9(1), nid ystyrir bod person wedi mynd yn groes i reoliad 5(1), neu wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 5(1), mewn cysylltiad â’r gofynion a nodir mewn perthynas â rheoliad 5(4)(b)—

(a)os byddai’r achos honedig o fynd yn groes yn ymwneud â chynnyrch sydd wedi’i roi ar y farchnad ar neu ar ôl y diwrnod y daeth y Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 i rym a chyn diwedd 30 Medi 2022; a

(b)os na fyddai’r mater sy’n ffurfio’r achos honedig o fynd yn groes neu’r methiant honedig i gydymffurfio wedi bod yn groes i’r darpariaethau hynny yn y Rheoliadau hyn, neu’n fethiant i gydymffurfio â hwy, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

4.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 4 (eithriadau), ym mharagraff 10(4), yn lle “, Rhestr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon neu restr gyfatebol mewn gwlad y caniatawyd cywerthedd iddi” rhodder “neu Restr Amrywogaethau Gogledd Iwerddon”.

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

5.  Yn Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013(8), ar ôl rheoliad 21 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE

22.(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio â rheoliad 13(2), mewn cysylltiad â’r gofyniad a nodir yn rheoliad 14(1)(d)—

(a)os byddai’r hysbysiad gwella’n ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad ar neu cyn 30 Medi 2022; a

(b)os na fyddai’r mater wedi bod yn fethiant i gydymffurfio â’r darpariaethau hynny yn y Rheoliadau hyn fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad gwella” yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 7.

Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015

6.  Yn Rheoliadau Mêl (Cymru) 2015(9), ar ôl rheoliad 22 mewnosoder—

Darpariaethau trosiannol: ymadael â’r UE

23.(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio â rheoliad 17(1)—

(a)os byddai’r hysbysiad gwella’n ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a

(b)os na fyddai’r mater a fuasai’n ffurfio’r toriad honedig wedi bod yn drosedd o dan reoliad 17(1) fel yr oedd y ddarpariaeth honno’n cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(2) Ni chaiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio â rheoliad 17(1)—

(a)os byddai’r hysbysiad gwella’n ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad ar neu cyn 30 Medi 2022;

(b)os oes ar y cynnyrch un o’r mynegiadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 17(1) fel yr oedd y ddarpariaeth honno’n cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

(c)os na fyddai defnyddio’r mynegiad, pe bai’r cynnyrch wedi ei osod ar y farchnad yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi bod yn doriad o reoliad 17(1) fel yr oedd y ddarpariaeth honno’n cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a

(d)os yw’r mynegiad yn gywir o ran adnabod tarddiad y melau yn y cynnyrch fel melau o’r UE, melau o’r tu allan i’r UE neu felau o’r UE ac o’r tu allan i’r UE, yn ôl y digwydd.

(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad gwella” yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 19.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016

7.  Yn Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016(10), yn Rhan 4, ar ôl rheoliad 10 (y drosedd o fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig yn Rheoliad 1831/2003) mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE

10A.  At ddiben rheoliad 10(1), fel y’i darllenir gyda rheoliad 10(2)(e), nid ystyrir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 16(1)(b) o Reoliad 1831/2003, neu wedi methu â chydymffurfio â’r Erthygl honno—

(a)os byddai’r mynd yn groes honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodid ar y farchnad ar neu ar ôl y diwrnod y daeth y Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 i rym a chyn diwedd 30 Medi 2022; a

(b)os na fyddai’r mater a fuasai’n ffurfio’r mynd yn groes honedig neu’r methiant honedig i gydymffurfio wedi bod yn groes i’r Erthygl honno, neu’n fethiant i gydymffurfio â hi, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016

8.  Yn Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016(11), ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE

10.(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio â rheoliad 6(1)(d) neu (e)—

(a)os byddai’r hysbysiad gwella’n ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad ar neu cyn 30 Medi 2022; a

(b)os na fyddai’r mater a fuasai’n ffurfio’r methiant honedig i gydymffurfio wedi bod yn fethiant i gydymffurfio â rheoliad 6(1)(d) neu (e) (yn ôl y digwydd) fel yr oedd y darpariaethau hynny’n cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad gwella” yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 8.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru

23 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno darpariaethau trosiannol i is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru ym maes safonau a labelu bwyd a bwyd anifeiliaid ac yn ymwneud â diwygiadau i ddeddfwriaeth a wneir gan offerynnau statudol Ymadael â’r UE eraill.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro mân wall mewn is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru mewn perthynas â marchnata hadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16. Mae diwygiadau i baragraff 1 o Atodlen 2 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan baragraff 53 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1).

(2)

Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

EUR 178/2002, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

O.S. 2006/31 (Cy. 5), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/893 (Cy. 92); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 2007/389 (Cy. 40), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, O.S. 2014/2303 (Cy. 227) ac O.S. 2019/434 (Cy. 102). Diwygiwyd O.S. 2019/434 (Cy. 102) wedi hynny gan O.S. 2020/1581 (Cy. 331); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 2012/245 (Cy. 39), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/368 (Cy. 90). Diwygiwyd O.S. 2019/368 (Cy. 90) gan O.S. 2020/1573 (Cy. 330). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

O.S. 2013/2591 (Cy. 255), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1581 (Cy. 331); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 2015/1507 (Cy. 174), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1581 (Cy. 331); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

O.S. 2016/386 (Cy. 120), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1046 (Cy. 185) ac O.S. 2020/1381 (Cy. 307); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

O.S. 2016/1130 (Cy. 270), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1581 (Cy. 331); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.