Search Legislation

Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “(8)” rhodder “(9)”;

(b)ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(9) Nid ystyrir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 5(1) o Reoliad 853/2004 nac wedi methu â chydymffurfio â’r Erthygl honno—

(a)yn achos marc iechyd neu farc adnabod—

(i)os dodwyd y marc iechyd neu’r marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a

(ii)os oedd y marc iechyd neu’r marc adnabod yn cydymffurfio ag Erthygl 5(1) fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; neu

(b)os dodir marc adnabod ar gynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, ar neu ar ôl y diwrnod y daeth y Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021(2) i rym a chyn diwedd 30 Medi 2022, yn unol ag Erthygl 5(1), fel yr oedd yr Erthygl honno’n gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, gan ddefnyddio label, deunydd lapio neu ddeunydd pecynnu ac arno’r marc adnabod hwnnw ac sy’n perthyn i’r gweithredwr busnes bwyd yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(1)

O.S. 2006/31 (Cy. 5), a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/893 (Cy. 92); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help