NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â phersonau penodol. Mae’r Gorchymyn yn gwneud hyn drwy eithrio o’r cychwyn hwnnw bersonau sy’n dod o fewn categori a nodir yn erthygl 4 ar 1 Medi 2021. Mae’r categorïau sydd wedi eu heithrio yn cynnwys y rheini sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a’r rheini sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd (gweler erthygl 2).

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 5 (darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth) i rym ar 1 Medi 2021 ar gyfer y rheini nad ydynt yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 6 hefyd i rym ar 1 Medi 2021 ar gyfer personau y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio neu ei gadw o dan adran 40 neu 42 o’r Ddeddf mewn perthynas â hwy.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 8 i rym yn llawn ar 1 Medi 2021.