2021 Rhif 381 (Cy. 120) (C. 13)
Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20181, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongliI11
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “addysg feithrin” yr un ystyr â “nursery education” yn adran 117 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—
- i
adran 312(2)2 o Ddeddf 1996—
- aa
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
- bb
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
- aa
- ii
adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
- i
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 5793 o Ddeddf 1996;
ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;
ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;
ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 9 oed;
ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 10 oed;
ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 12 oed;
ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 13 oed;
ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 14 oed;
ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 5794 o Ddeddf 1996;
ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2)5 o Ddeddf 2014;
ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—
- i
adran 312(4)6 o Ddeddf 1996—
- aa
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
- bb
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
- aa
- ii
adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
- i
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19967;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 20148;
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 4349 o Ddeddf 1996;
mae i “diwrnod ysgol” yr un ystyr â “school day” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth o ddisgyblion y mae addysg feithrin yn cael ei darparu iddynt;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr â “plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol” yn adran 15 o’r Ddeddf;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 201210;
mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;
mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” (“institution in the further education sector”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru11;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)12 o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A)13 o Ddeddf 1996;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, unrhyw ysgol feithrin a gynhelir, neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 199814;
mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
3
Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 ond ac eithrio—
a
adran 323;
b
adran 329;
c
adran 329A.
4
Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
a
y Ddeddf,
b
rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
c
unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf neu a wneir o dan Ddeddf sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
i
darpariaeth o’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath, neu
ii
person y mae’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
5
At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
a
os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
b
os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
6
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwydI22
1
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” os yw P yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru a bod ganddo anhawster dysgu a nodwyd gan y corff llywodraethu sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.
2
Ond nid yw’n cynnwys plentyn—
a
y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;
b
y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;
c
sy’n blentyn cofrestredig mewn ysgol a gynhelir ac—
i
sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach), a
ii
y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano;
d
sy’n blentyn sy’n derbyn gofal ond nid yn blentyn sy’n derbyn gofal sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr;
e
y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
f
y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
g
y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
i
nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
ii
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
iii
dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
h
y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
i
y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
i
nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
ii
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
iii
dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
aa
gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu
bb
ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
j
y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn;
k
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—
i
nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben; neu
ii
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
l
y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
m
nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 200015—
i
yn mynd rhagddo; neu
ii
wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;
n
y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
o
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—
i
nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
ii
bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
iii
bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
iv
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
v
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
p
y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
i
nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
ii
bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
iii
nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
q
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
i
nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
ii
bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
iii
bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
iv
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
v
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
aa
gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn; neu
bb
ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
r
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio;
s
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
i
nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
ii
bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
iii
bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
iv
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2021I33
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2021 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
a
adrannau 2 i 4;
b
adrannau 6 i 14;
c
adrannau 16 i 36;
d
adran 38;
e
adrannau 40 i 44;
f
adrannau 47 i 49;
g
adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
h
adran 50(4) i (5);
i
adrannau 51 i 53;
j
adran 55;
k
adran 59;
l
adrannau 63 i 66;
m
adrannau 68 i 69;
n
adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
o
yn yr Atodlen—
i
paragraff 1;
ii
paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);
iii
paragraff 4(2) i 4(8);
iv
paragraff 4(9);
v
paragraff 4(10);
vi
paragraff 4(13) i 4(18);
vii
paragraff 4(19)(b);
viii
paragraff 4(20) a 4(21);
ix
paragraff 4(23) i 4(29);
x
paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
xi
paragraff 7;
xii
paragraff 8;
xiii
paragraff 11(a);
xiv
paragraff 12(a);
xv
paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);
xvi
paragraff 14(2) a (3);
xvii
paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);
xviii
paragraff 19(5)(e)(ii);
xix
paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);
xx
paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
xxi
paragraff 22;
xxii
paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);
xxiii
paragraff 23(4);
xxiv
paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);
xxv
paragraff 24(2) i (3), (5) a (6)(a).
Darpariaeth arbedI44
Yn ddarostyngedig i erthyglau 7 i 12 ac erthyglau 14 i 16, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 199616 wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd—
a
mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw; a
b
nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
Hysbysiad CDUI55
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—
a
bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf; a
b
y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn (oni bai ei bod yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau cynllun AIG yn dilyn cais o dan adran 12(2)(c) o’r Ddeddf).
Hysbysiad dim anghenionI66
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad dim anghenion sy’n cadarnhau bod y corff llywodraethu wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.
Effaith hysbysiad CDUI77
Effaith yr hysbysiad CDU yw—
a
y bernir bod y corff llywodraethu wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
b
bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw; ac
c
bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Effaith hysbysiad dim anghenionI88
Effaith yr hysbysiad dim anghenion yw—
a
y bernir bod y corff llywodraethu wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
b
bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw; ac
c
bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Dyletswydd i roi hysbysiad
I99
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10.
2
Yn ddarostyngedig i erthygl 12, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022.
I1010
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.
2
Yn ddarostyngedig i erthygl 12, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.
I1111
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac nad oedd yn dod o fewn erthygl 9 na 10.
2
Yn ddarostyngedig i erthygl 12, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenionI1212
Caiff plentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i gorff llywodraethu’r ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi roi hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion a rhaid i’r corff llywodraethu roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion o fewn 10 niwrnod ysgol i’r cais.
Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigolI1313
1
Pan fo hysbysiad CDU wedi ei roi yn unol ag erthyglau 9, 10, 11 neu 12, rhaid i’r corff llywodraethu roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol i ddyddiad yr hysbysiad oni bai—
a
bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys; neu
b
bod amgylchiadau eithriadol.
2
Os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
3
Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol gan gorff llywodraethu yn gymwys pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.
Hysbysiad heb ei roi
I1414
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac a oedd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022 ac na chafodd hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion cyn 31 Awst 2022.
2
Ar 31 Awst 2022—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn; a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
I1515
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac oedd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023 ac na chafodd hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion cyn 31 Awst 2023.
2
Ar 31 Awst 2023—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn; a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
I1616
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac na chafodd hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion cyn 31 Awst 2024.
2
Ar 31 Awst 2024—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn; a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Sylw i ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd cyn hysbysiad CDUI1717
Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn o ganlyniad i hysbysiad CDU a roddir o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol (yn ôl y digwydd) roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn i’r hysbysiad CDU gael ei roi.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn17:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 4 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 5 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 7 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 8 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 15 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 16 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 21 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 32 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 36 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 37 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 39 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 45 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 46 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 47 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 54 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 56 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 56(1) | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 56(4) i (6) | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 60 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 61 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 62 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 65 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 67 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 74 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 75 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 76 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 77 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 82 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 83 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 85 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 91 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 92 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 95 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 96 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 |