Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021

Dyletswydd i roi hysbysiad

9.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10.

(2Yn ddarostyngedig i erthygl 12, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad dim anghenion i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022.