NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau nad ydynt yn rhai testunol i Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) er mwyn sicrhau bod Fforymau Mynediad Lleol yn gallu parhau i gyfarfod a gwneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod o amhariad a achosir gan bandemig y coronafeirws.
Ac eithrio rheoliadau 1 a 6, mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2021.
Mae rheoliadau 1 a 6 yn peidio â chael effaith ar 4 Awst 2022.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn galluogi Fforymau Mynediad Lleol i gynnal cyfarfodydd o bell yn hytrach na gorfod eu cynnal mewn un lleoliad ffisegol.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch penodiadau dros dro i Fforymau Mynediad Lleol, drwy roi’r pŵer i’r awdurdodau penodi ddewis peidio ag arfer y gofynion yn rheoliadau 7(a) a (b) mewn perthynas â phenodiadau a wneir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac yn dod i ben ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2021. Mae hefyd yn darparu na chaniateir gwneud y penodiadau hynny ond am gyfnod o hyd at 9 mis o ddyddiad y penodiad. Diben y ddarpariaeth hon yw caniatáu i unrhyw aelodau o Fforymau Mynediad Lleol y mae cyfnod eu penodiad wedi dod i ben yn ddiweddar gael eu hailbenodi yn gyflym ac mewn modd syml os nad yw’n bosibl cynnal cylch recriwtio llawn ar hyn o bryd.
Mae rheoliad 4 yn caniatáu i bapurau ar gyfer cyfarfodydd gael eu hanfon ar ffurf electronig.
Mae rheoliad 5 yn caniatáu ethol y Cadeirydd neu’r Dirprwy Gadeirydd drwy ddull ac eithrio drwy bleidlais gyfrinachol, os nad yw hynny’n opsiwn sydd ar gael iddynt, ac yn caniatáu i’r Fforymau Mynediad Lleol benderfynu ar eu gweithdrefn eu hunain.
Mae rheoliad 6 yn caniatáu i’r person sy’n llywyddu wahardd y cyhoedd o eitem benodol o fusnes os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
Mae rheoliad 7 yn darparu, at ddiben cyfrifo’r cyfnod o 12 mis pan fydd aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn cyfarfodydd cyn y caniateir terfynu ei aelodaeth, bod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ac sy’n dod i ben â’r diwrnod cyntaf ar ôl Diwrnod Un pan gynhelir cyfarfod o’r fforwm, neu unrhyw bwyllgor o’r fforwm i’w ddiystyru.
Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau blynyddol a gymeradwyir ar ôl 30 Ebrill 2021 a chyn 31 Rhagfyr 2021 gael eu cyhoeddi ar wefan yr awdurdod penodi, a’u bod hefyd ar gael i edrych arnynt yn swyddfa’r awdurdod penodi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.