Adroddiadau blynyddol gan awdurdodau penodi
8. Mae rheoliad 16 o Reoliadau 2001 (adroddiadau blynyddol) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)—
“(3) Rhaid i’r awdurdod penodi gyhoeddi adroddiad blynyddol a gymeradwyir ar ôl 31 Ebrill 2021 a chyn diwedd 31 Rhagfyr 2021 ar ei wefan a rhaid iddo hefyd fod ar gael i edrych arno yn swyddfa’r awdurdod penodi yn ystod oriau swyddfa arferol.”