NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 46 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) a pharagraffau 2(1), 4(1) a 6(1) o Atodlen 5 iddi, a pharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â gweithredu a diffygion sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ac er mwyn gwneud darpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy’n llywodraethu rhaglenni datblygu gwledig ar gyfer sicrhau cymorth domestig ar gyfer datblygu gwledig yng Nghymru.

Mae rheoliadau 2, 3, 4 a 5 yn addasu Rheoliadau (EU) Rhif 1306/2013, 640/2014, 809/2014, a 908/2014 i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn darparu ar gyfer fframwaith i ganiatáu creu cynllun cymorth datblygu gwledig domestig newydd.

Mae rheoliadau 6 i 12 yn addasu Rheoliadau (EU) Rhif 1303/2013, 1305/2013, 480/2014, 807/2014, 808/2014, 821/2014, a 964/2014 i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn i gymorth datblygu gwledig weithredu’n effeithiol a mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â gweithredu. Mae’r Rheoliadau UE hynny’n cynnwys rhai o’r rheolau sy’n llywodraethu cymorth datblygu gwledig. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r corff cyfreithiol hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â chymorth domestig ar gyfer rhaglenni datblygu gwledig yn unig.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ddomestig sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig. Mae’r newidiadau’n sicrhau bod y ddeddfwriaeth ddomestig yn cyd-fynd â’r newidiadau a wneir gan Rannau 2 a 3 o’r Rheoliadau hyn yng nghyfraith yr UE a ddargedwir ac sy’n llywodraethu cymorth ar gyfer datblygu gwledig.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau (UE) Rhif 1306/2013, 640/2014 ac 809/2014, i’r graddau y maent yn ymwneud â’r cynlluniau taliadau uniongyrchol yn unig. Mae’r diwygiadau’n fân ac yn dechnegol eu natur ac yn mynd i’r afael â gwallau er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gywir ac yn gweithredu’n effeithiol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.