xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
13. Hepgorer rheoliad 2(3) o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014(1).
14.—(1) Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014(2) wedi eu diwygio, i’r graddau y maent yn ymwneud â chymorth domestig ar gyfer datblygu gwledig, fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 15 mewnosoder—
16.—(1) Ni chaiff buddiolwr drosi, aredig neu ailhadu darnau penodol o laswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif oni bai—
(a)bod hysbysiad y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn ei gwneud yn ofynnol i’r buddiolwr aredig neu drosi darnau penodol o’r safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig neu eu trosi neu’n caniatáu i’r buddiolwr wneud hynny; neu
(b)bod cydsyniad i wneud hynny wedi ei roi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
(2) Yn y paragraff hwn—
ystyr “glaswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif” (“environmentally sensitive permanent grassland”) yw—
glaswelltir a leolir mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; a
glaswelltir y mae angen cydsyniad ysgrifenedig i aredig mewn perthynas ag ef yn unol ag adran 28E(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3) ond nad yw’r cydsyniad hwnnw wedi ei sicrhau;
mae i “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” yn adran 52(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.”
O.S. 2014/3222 (Cy. 327), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/688 (Cy. 132).
O.S. 2014/3223 (Cy. 328), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/217 (Cy. 86), O.S. 2016/1154, O.S. 2017/565 (Cy. 134), O.S. 2019/688 (Cy. 132), O.S. 2020/104 (Cy. 17) ac O.S. 2020/1556 (Cy. 328).