RHAN 3Datblygu Gwledig: Deddfwriaeth Uniongyrchol a Ddargedwir

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 964/2014

12.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 964/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor mewn perthynas â thelerau ac amodau safonol ar gyfer offerynnau ariannol, wedi ei ddiwygio i’r graddau y mae’n ymwneud â chymorth domestig ar gyfer datblygu gwledig, fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 1A, hepgorer “and support under Regulation 508/2014”.

(3Yn Erthygl 3(1), hepgorer y geiriau o “or support under Regulation 508/2014” hyd at y diwedd.

(4Yn Erthygl 4—

(a)ym mharagraff 1, hepgorer “or, if applicable, the fund of funds manager”;

(b)ym mharagraff 2, hepgorer y frawddeg olaf;

(c)ym mharagraff 4—

(i)hepgorer “fund of funds manager and the”;

(ii)hepgorer “fund of funds manager or of the”.

(5Yn Erthygl 5—

(a)ym mharagraff 1, hepgorer “which shall contain the terms and conditions in accordance with Annex I.”;

(b)ym mharagraff 2, hepgorer pwynt (a).

(6Hepgorer Erthygl 6(2).

(7Hepgorer Erthygl 7(2).

(8Hepgorer Erthygl 8(3).

(9Yn Erthygl 8a—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn lle “small and medium-sized enterprises (SMEs)” rhodder “businesses”;

(ii)yn lle “investments in SMEs” rhodder “investments in businesses”;

(b)hepgorer paragraff 2.

(10Hepgorer Atodiadau I i V.