RHAN 2Datblygu Gwledig: Deddfwriaeth Lorweddol
Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/20145
1
Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asiantaethau talu a chyrff eraill, rheolaeth ariannol, clirio cyfrifon, rheolau ar wiriadau, gwarannau a thryloywder6 wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â chymorth domestig ar gyfer datblygu gwledig, fel a ganlyn.
2
Yn Erthygl 4(1)—
a
hepgorer pwynt (i);
b
ym mhwynt (ii), hepgorer “on a single website”.
3
Yn Erthygl 27(1), yn lle “EUR 5” rhodder “£5.00”.
4
Yn lle Erthygl 41(1) rhodder—
1
The relevant authorities may decide to reduce the minimum level of on-the-spot checks in accordance with Article 59(5) of Regulation (EU) No 1306/2013. For the reduced control rate to apply, the paying agency must confirm that—
a
the internal control system is functioning correctly; and
b
the error rate for the population concerned was below the materiality threshold of 2.0%.
5
Yn Erthygl 42—
a
ym mharagraff 1, yn lle “EUR 150 000” rhodder “£150 000”;
b
ym mharagraff 3, yn lle “EUR 350 000” rhodder “£350 000”.
6
Yn Erthygl 56(1), yn lle “EUR 1 000” rhodder “£1 000”.
7
Hepgorer Erthygl 62.
8
Yn Atodiad XI—
a
yn lle “EUR 150, 000” rhodder “£150,000”;
b
yn lle “EUR 350 000” rhodder “£350 000” ym mhob lle y mae’n digwydd;
c
yn lle “EUR 40 000” rhodder “£40 000” ym mhob lle y mae’n digwydd;
d
yn y tabl yn nalen B—
i
yn lle “(EUR)” rhodder “£” ym mhob lle y mae’n digwydd;
ii
yn lle “40 000 EUR” rhodder “£40 000”.