Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/2014
5.—(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asiantaethau talu a chyrff eraill, rheolaeth ariannol, clirio cyfrifon, rheolau ar wiriadau, gwarannau a thryloywder(1) wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â chymorth domestig ar gyfer datblygu gwledig, fel a ganlyn.
(2) Yn Erthygl 4(1)—
(a)hepgorer pwynt (i);
(b)ym mhwynt (ii), hepgorer “on a single website”.
(3) Yn Erthygl 27(1), yn lle “EUR 5” rhodder “£5.00”.
(4) Yn lle Erthygl 41(1) rhodder—
“1. The relevant authorities may decide to reduce the minimum level of on-the-spot checks in accordance with Article 59(5) of Regulation (EU) No 1306/2013. For the reduced control rate to apply, the paying agency must confirm that—
(a)the internal control system is functioning correctly; and
(b)the error rate for the population concerned was below the materiality threshold of 2.0%.”
(5) Yn Erthygl 42—
(a)ym mharagraff 1, yn lle “EUR 150 000” rhodder “£150 000”;
(b)ym mharagraff 3, yn lle “EUR 350 000” rhodder “£350 000”.
(6) Yn Erthygl 56(1), yn lle “EUR 1 000” rhodder “£1 000”.
(7) Hepgorer Erthygl 62.
(8) Yn Atodiad XI—
(a)yn lle “EUR 150, 000” rhodder “£150,000”;
(b)yn lle “EUR 350 000” rhodder “£350 000” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(c)yn lle “EUR 40 000” rhodder “£40 000” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(d)yn y tabl yn nalen B—
(i)yn lle “(EUR)” rhodder “£” ym mhob lle y mae’n digwydd;
(ii)yn lle “40 000 EUR” rhodder “£40 000”.
EUR 2014/908, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/90.