Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
am 1.40 p.m. ar 24 Mawrth 2021
Yn dod i rym
1 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 15(2), 21(10), 32(1)(b), 36(3), 37(1)(a) a (b), 45, 46, 60(4), 65(5), 67, 82, 83, 97 a 98(2) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1).
Yn unol ag adran 98(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
2018 dccc 2. Gweler adran 99(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” ac “a ragnodir” a “rheoliadau”.
Mae’r cyfeiriadau yn adran 98(3) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).