NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”) yn sefydlu’r system yng Nghymru ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc. Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at y system y darperir ar ei chyfer yn Neddf 2018.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch dehongli termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau drwyddynt draw. Hefyd, mae darpariaethau dehongli penodol mewn rheoliadau eraill, pan fo’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn cael eu defnyddio at ddibenion rheoliadau sy’n ymdrin â mater penodol yn unig (er enghraifft, rheoliad 34 yn Rhan 4). Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysu rhywun neu roi dogfen i rywun o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn ymdrin ag ystod o faterion sy’n gysylltiedig â chynlluniau datblygu unigol, ac mae’n ychwanegu at ddarpariaethau Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2018. Yn benodol, mae rheoliadau 6 i 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch penderfyniadau awdurdodau lleol o dan adrannau 14 ac 31 o Ddeddf 2018 ynghylch yr angen i gynnal cynlluniau datblygu unigol ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru na sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru. Mae darpariaethau hefyd sy’n gysylltiedig â throsglwyddo cyfrifoldeb am gynllun datblygu unigol o un corff i un arall. Mae rheoliadau 20 i 25 yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddyletswyddau yn Neddf 2018 mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau atodol ym Mhennod 3 o Ran 2 o Ddeddf 2018 a swyddogaethau yn adrannau 68 a 69 o’r Ddeddf honno. Mae’n cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol. Mae adran 60 o Ddeddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir (ac eithrio ysgolion arbennig) a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ddynodi person (neu bersonau) yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i fod yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae rheoliadau 27 ac 28 yn nodi’r cymwysterau neu’r profiad y mae rhaid i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol feddu arnynt neu arno ac mae rheoliadau 29 a 30 yn rhoi swyddogaethau i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn effeithio ar allu’r corff llywodraethu i roi cyfrifoldebau pellach i’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r darpariaethau hyn yn disodli’r darpariaethau yn Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020, sydd wedi eu dirymu gan reoliad 1.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch rhieni a phobl ifanc nad oes ganddynt alluedd. Mae’n ymdrin â phobl ifanc, a rhieni plant, nad oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud y penderfyniadau neu i gymryd y camau gweithredu sy’n ofynnol. At ddibenion Deddf 2018, nid oes gan berson alluedd pan nad oes ganddo alluedd o fewn ystyr “lack capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005, hynny yw, pan nad oes ganddo alluedd meddyliol, nid galluedd cyfreithiol. Mae’r Rheoliadau yn darparu, pan na fo gan riant plentyn alluedd, fod pob cyfeiriad at riant y plentyn i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant. Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu, pan na fo gan berson ifanc alluedd, fod y cyfeiriadau at y person ifanc i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd y person ifanc, neu at riant y person ifanc.

Mae Rhan 4 yn ei gwneud yn glir bod y darpariaethau sy’n ymwneud â galluedd meddyliol yn cael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru .