RHAN 1CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a dirymuI11
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021.
2
Deuant i rym ar 1 Medi 2021.
3
Mae Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 20203 wedi eu dirymu.
Dehongli cyffredinolI22
1
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2018” yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
2
Mae i gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (sut bynnag y’i mynegir) yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 19964.
3
Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf 2018 ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
4
Pan fo’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyfnod y mae’n ofynnol gwneud rhywbeth ynddo, neu cyn ei ddiwedd, ac na fo diwrnod olaf y cyfnod hwnnw yn ddiwrnod gwaith, mae’r cyfnod yn cael ei estyn i gynnwys y diwrnod gwaith canlynol.
Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rheoliadau hynI33
1
Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol (ar ba delerau bynnag) i gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, neu’n awdurdodi (ar ba delerau bynnag) corff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru i—
a
hysbysu person am rywbeth, neu
b
rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).
2
Mae adran 88 o Ddeddf 2018 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon) yn gymwys i’r ddarpariaeth—
a
fel pe bai’n ddarpariaeth yn Rhan 2 o Ddeddf 2018,
b
fel pe bai’r cyfeiriadau yn yr adran honno at gorff llywodraethu neu awdurdod lleol yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, ac
Rhoi hysbysiad etc. o dan Ran 2 o Ddeddf 2018: diwygio adran 88I44
Ar ddiwedd adran 88 o Ddeddf 2018 mewnosoder—
6
Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig yn unol â’r adran hon i gael ei drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod yr anfonwyd y cyfathrebiad electronig.