RHAN 3SWYDDOGAETHAU ATODOL
Terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â chais adran 65
Terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â chais awdurdod lleol am wybodaeth neu help arall31
1
Rhaid i berson sydd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais awdurdod lleol o dan adran 65 o Ddeddf 2018 (dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arall) gydymffurfio â’r cais yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2).
2
Mae’r cyfnod rhagnodedig—
a
yn dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn cael y cais, a
b
yn dod i ben ar ddiwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).
3
Nid oes angen i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2)—
a
os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person, neu
b
os nad yw’r cais yn ymwneud ag arfer swyddogaeth mewn cysylltiad â phlentyn neu berson ifanc penodol.