RHAN 4RHIENI A PHOBL IFANC NAD OES GANDDYNT ALLUEDD

Dehongli’r Rhan honI134

Yn y Rhan hon—

  • mae i “yr adeg berthnasol” (“therelevant time”) yr un ystyr ag yn adran 83(3) o Ddeddf 2018;

    ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) yw—

    1. a

      dirprwy a benodir gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 200516 i wneud penderfyniadau ar ran y rhiant neu’r person ifanc mewn perthynas â materion o fewn Rhan 2 o Ddeddf 2018;

    2. b

      rhoddai atwrneiaeth arhosol (o fewn yr ystyr a roddir i “lasting power of attorney” yn adran 9 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005) a benodir gan riant plentyn neu gan berson ifanc i wneud penderfyniadau ar ran y rhiant neu’r person ifanc mewn perthynas â materion o fewn Rhan 2 o Ddeddf 2018;

    3. c

      atwrnai y mae atwrneiaeth barhaus (o fewn yr ystyr a roddir i “enduring power of attorney” yn Atodlen 4 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 200517) sydd wedi ei chreu gan y rhiant neu’r person ifanc wedi ei breinio ynddo, pan fo’r atwrneiaeth wedi ei chofrestru yn unol â pharagraffau 4 a 13 o’r Atodlen honno neu pan fo cais i gofrestru’r atwrneiaeth wedi ei wneud;

    4. d

      rhiant y person ifanc, pan na fo gan y person ifanc gynrychiolydd a restrir ym mharagraff (a), (b) neu (c).

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 34 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Pan nad oes gan riant plentyn allueddI235

1

Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau yn narpariaethau Deddf 2018 a restrir isod at riant plentyn i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw—

a

adran 11(4);

b

adran 13(3);

c

adran 18(3);

d

adran 20(3)(a) a (b);

e

adran 22(1)(b) a (2)(b);

f

adran 23(8), (10) ac (11);

g

adran 24(7), (9) a (10);

h

adran 26(1)(b);

i

adran 27(1)(b) a (4);

j

adran 28(2)(b), (4), (5) a (7);

k

adran 31(7)(b), (8) a (9);

l

adran 32(1)(a) a (b) a (3);

m

adran 64(3) a (4).

2

Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau at rieni plant, a rhieni disgyblion yn adran 9(3)(b) a (4)(a) o Ddeddf 2018 yn y drefn honno i’w darllen fel pe baent yn cynnwys y rhieni a chynrychiolydd i’r rhieni.

3

Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriad yn rheoliad 22(5)(b) at riant y plentyn i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 35 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Pan nad oes gan riant i blentyn sy’n berson sy’n cael ei gadw’n gaeth allueddI336

Pan nad oes gan riant i berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn alluedd ar yr adeg berthnasol—

a

mae cyfeiriadau yn adrannau 40(4) a (5)(b) a 42(6) o Ddeddf 2018 at riant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw;

b

mae’r cyfeiriad yn rheoliad 18(6) at riant y plentyn i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 36 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Pan nad oes gan berson ifanc allueddI437

1

Pan nad oes gan berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau at berson ifanc yn narpariaethau Deddf 2018 a restrir isod i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd y person ifanc—

a

adran 11(3)(c) yn yr ail le y mae’n digwydd;

b

adran 11(4) yn yr ail le y mae’n digwydd;

c

adran 12(2)(b) yn yr ail le y mae’n digwydd;

d

adran 13(2)(d) yn yr ail le y mae’n digwydd;

e

adran 13(3) yn yr ail le y mae’n digwydd;

f

adran 14(3) yn yr ail le y mae’n digwydd;

g

adran 20(3)(a) a (b);

h

adran 22(1)(a) a (2)(a);

i

adran 23(8) yn yr ail le y mae’n digwydd;

j

adran 23(10) ac (11)(a);

k

adran 26(1)(b) yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

l

adran 27(1)(b) yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

m

adran 27(4);

n

adran 28(2)(a), (4), (5) a (7);

o

adran 31(7)(a), (8) a (9);

p

adran 32(1)(a);

q

adran 32(1)(b) yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

r

adran 32(3).

2

Pan nad oes gan berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriadau at bobl ifanc yn adran 9(3)(a) ac at fyfyrwyr yn adran 9(5) o Ddeddf 2018 yn y drefn honno i’w darllen fel pe baent yn cynnwys y person ifanc a chynrychiolydd y person ifanc.

3

Pan nad oes gan berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau at berson ifanc yn y rheoliadau isod i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd y person ifanc—

a

rheoliad 10(2), (3) a (5);

b

rheoliad 14(3) a (4);

c

rheoliad 22(5)(a).

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 37 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Pan nad oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n berson ifanc allueddI538

Pan nad oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriadau yn y darpariaethau isod i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd i’r person ifanc hwnnw—

a

y cyfeiriad at y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y trydydd lle y mae’n digwydd yn adran 40(4) o Ddeddf 2018;

b

y cyfeiriad at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y lle cyntaf y mae’n digwydd yn adran 40(5)(b) o Ddeddf 2018;

c

y cyfeiriadau yn adrannau 41(2)(a) a 42(4) o Ddeddf 2018 at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n berson ifanc;

d

y cyfeiriad at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y lle cyntaf y mae’n digwydd yn adran 42(6) o Ddeddf 2018;

e

y cyfeiriad at berson ifanc yn yr ail le y mae’n digwydd yn rheoliad 18(4)(b);

f

y cyfeiriad at berson sy’n cael ei gadw’n gaeth yn y lle cyntaf y mae’n digwydd yn rheoliad 18(6).

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 38 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau o dan adran 68 o Ddeddf 2018I639

Pan nad oes gan riant plentyn neu gan berson ifanc alluedd ar yr adeg berthnasol, rhaid i drefniadau a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 68 o Ddeddf 2018 ddarparu i gynrychiolydd gymryd rhan yn y trefniadau ar ran rhiant y plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 39 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 69 o Ddeddf 2018I740

Pan nad oes gan berson ifanc y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdano alluedd ar yr adeg berthnasol, rhaid i’r awdurdod lleol hwnnw atgyfeirio cynrychiolydd y person ifanc hwnnw i wasanaeth eirioli annibynnol os yw’r cynrychiolydd yn gofyn am wasanaeth eirioli annibynnol.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 40 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Cynrychiolaeth mewn apelauI841

Pan nad oes gan riant plentyn, neu riant person sy’n cael ei gadw’n gaeth ac sy’n blentyn, alluedd ar yr adeg berthnasol, neu pan nad oes gan berson ifanc, neu berson sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n berson ifanc, alluedd ar yr adeg berthnasol, caiff ei gynrychiolydd apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru ar ei ran ac mae adrannau 70 a 72 o Ddeddf 2018 i’w dehongli yn unol â hynny.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 41 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Deddf Galluedd Meddyliol 2005I942

Mae rheoliadau 35, 36, 37 a 39 yn cael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 200518.