13.—(1) Rhaid i gais gan awdurdod lleol o dan adran 36(2) o Ddeddf 2018 fod corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad—
(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig, a
(b)dod gyda chopi o’r cynllun, oni bai bod gan y corff llywodraethu gopi ohono eisoes.
(2) Mae’r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 36(3) o Ddeddf 2018 (y cyfnod y caiff awdurdod lleol atgyfeirio mater at Weinidogion Cymru ar ei ôl)—
(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn cael y cais o dan adran 36(2), a
(b)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 20 niwrnod amser tymor sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).
(3) Pan fo corff llywodraethu yn cytuno i gais awdurdod lleol o dan adran 36(2)—
(a)rhaid iddo roi gwybod i’r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am ei gytundeb, a
(b)mae’n dod yn gyfrifol am y cynllun o dan adran 12(4) o Ddeddf 2018—
(i)ar y diwrnod y cytunir arno rhwng y corff llywodraethu a’r awdurdod i’r cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo;
(ii)fel arall ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael cytundeb ysgrifenedig y corff llywodraethu i’r cais.
(4) Ym mharagraff (2), ystyr “diwrnod amser tymor” mewn perthynas â sefydliad yn y sector addysg bellach yw diwrnod y mae’r sefydliad i fod i gwrdd at ddiben addysgu myfyrwyr ar yr amod bod y diwrnod hwnnw o fewn cyfnod amser y mae’r sefydliad yn cyflenwi’r rhan fwyaf o’i gyrsiau llawnamser ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 13 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)