Sicrhau darpariaeth arall pan fo cyfrifoldeb am gynllun yn cael ei drosglwyddo
17.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys—
(a)pan fo awdurdod lleol, yn dilyn trosglwyddo cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 35 o Ddeddf 2018, o dan ddyletswydd i sicrhau lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) neu 19(4) o’r Ddeddf honno, a
(b)pan na fo, yng ngoleuni’r amgylchiadau sydd wedi arwain at y trosglwyddiad, yn ymarferol mwyach i’r plentyn neu’r person ifanc fynychu’r ysgol neu’r sefydliad arall.
(2) Nid yw dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau’r lle yn yr ysgol neu’r sefydliad arall yn gymwys hyd nes ei bod yn bosibl diwygio’r cynllun ac eithrio pan fo’r awdurdod yn trefnu bwyd a llety o dan baragraff (3).
(3) Caiff yr awdurdod lleol drefnu bwyd a llety er mwyn galluogi’r plentyn neu’r person ifanc i barhau i fynychu’r ysgol neu’r sefydliad arall hyd nes ei bod yn bosibl diwygio’r cynllun datblygu unigol.