Yr angen am gynllun datblygu unigol ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth ar ôl ei ryddhau
18.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys at ddiben penderfyniad awdurdod cartref o dan adran 40(2)(b) o Ddeddf 2018.
(2) Mae angen llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth ac eithrio—
(a)pan fo’n debygol y bydd y person sy’n cael ei gadw’n gaeth wedi cyrraedd 25 oed cyn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth, neu
(b)pan fo’n annhebygol, yn achos person ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth, y bydd gan y person anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan gaiff ei ryddhau.
(3) At ddibenion paragraff (2)(b), mae gan berson ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—
(a)mae’r person ifanc wedi ei gofrestru’n ddisgybl neu wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn ysgol a gynhelir, sefydliad yn y sector addysg bellach neu Academi (pa un a yw’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr);
(b)mae gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan reoliad 9(1);
(c)mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan reoliad 9(2) fod gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant.
(4) Pan fo’r awdurdod cartref yn penderfynu na fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff y person hwnnw ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth, rhaid i’r awdurdod cartref wneud y penderfyniad hwnnw a rhoi’r hysbysiad ohono o dan adran 40(4) o Ddeddf 2018 yn brydlon ac mewn unrhyw achos cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod—
(a)yn achos plentyn, y tynnwyd sylw’r awdurdod cartref, neu yr ymddangosai i’r awdurdod cartref fel arall, y gall fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol;
(b)yn achos person ifanc, y cydsyniodd y person ifanc i’r penderfyniad gael ei wneud o ran a oes gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol.
(5) Nid oes angen i’r awdurdod cartref gydymffurfio â’r gofyniad i wneud y penderfyniad hwnnw a rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.
(6) Wrth hysbysu person sy’n cael ei gadw’n gaeth, ac os yw’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn blentyn, riant y plentyn, o dan adran 40(4) o Ddeddf 2018, na fydd angen cynllun datblygu unigol, rhaid i’r awdurdod cartref hefyd roi—
(a)manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod cartref;
(b)gwybodaeth am sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod cartref o dan adran 9 o Ddeddf 2018 ar gyfer darparu i bobl wybodaeth a chyngor ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan Ran 2 o’r Ddeddf honno;
(c)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod cartref ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau o dan adran 68 o Ddeddf 2018;
(d)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod cartref ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 69 o Ddeddf 2018;
(e)gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg o dan adran 72 o Ddeddf 2018 yn erbyn y penderfyniad.