Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

Awdurdod lleol perthnasolLL+C

21.—(1Pan oedd y plentyn neu’r person ifanc yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r plentyn neu’r person ifanc yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ystyr “yr awdurdod lleol perthnasol” yw awdurdod cartref y plentyn neu’r person ifanc.

(2Pan nad oedd y plentyn neu’r person ifanc yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r plentyn neu’r person ifanc yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983—

(a)os oedd y plentyn neu’r person ifanc yn derbyn gofal yn union cyn dechrau’r cyfnod cadw hwnnw neu os yw wedi bod yn derbyn gofal ar unrhyw adeg ers hynny, ystyr yr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr sy’n gofalu am y plentyn neu’r person ifanc, neu sydd wedi gofalu am y plentyn neu’r person ifanc ddiweddaraf;

(b)fel arall ystyr yr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

(3Ond nid yw awdurdod lleol yn Lloegr yn awdurdod lleol perthnasol.

(4At ddiben paragraff (1), mae’r diffiniadau o “awdurdod cartref” a “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” (gweler adran 39 o Ddeddf 2018 sy’n cymhwyso ystyron a roddir yn adran 562J o Ddeddf Addysg 1996(1) yn ddarostyngedig, yn achos “awdurdod cartref”, i unrhyw reoliadau o dan adran 39(2)) yn gymwys fel pe bai’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yn parhau i fod yn gyfnod o gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(5At ddiben paragraff (2), mae plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal gan awdurdod lleol os yw’r plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2) neu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion Deddf Plant 1989(3).

(6Wrth benderfynu at ddiben paragraff (2) lle y mae plentyn neu berson ifanc yn preswylio fel arfer, mae unrhyw gyfnod pan yw’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cadw i’w ddiystyru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 21 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

(1)

1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 562J gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 50. Mae diwygiadau perthnasol iddi wedi eu gwneud gan O.S. 2010/1158, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 16(1), (2) a (4).

(2)

2014 dccc 4. Mae adran 74 yn darparu ar gyfer dehongli cyfeiriadau yn y Ddeddf honno at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

(3)

1989 p. 41. Mae adrannau 22(1) a 105(4) yn darparu ar gyfer dehongli cyfeiriadau at blentyn sy’n derbyn gofal. Mae adran 22(1) wedi ei diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35), adran 2(1) a (2) ac O.S. 2016/413, rheoliadau 55 a 69(a). Amnewidiwyd adran 105(4) gan O.S. 2016/413, rheoliadau 55 a 106(b).