RHAN 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol

Dehongli rheoliadau 26 i 3026

Yn y rheoliad hwn a rheoliadau 27 i 30—

  • ystyr “athro neu athrawes addysg bellach” (“further education teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

  • ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ac nid yw’n cynnwys person sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro o dan adran 9(5) o’r Ddeddf honno;

  • ystyr “cydlynydd anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs co-ordinator”) yw person sydd â chyfrifoldeb am gydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y nodir bod ganddynt anghenion addysgol arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 199613;

  • ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 201414;

  • ystyr “gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”) yw—

    1. a

      cyngor neu gymorth mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol,

    2. b

      rheoli darpariaeth ddysgu ychwanegol,

    3. c

      asesu anghenion dysgu ychwanegol,

    4. d

      cyngor neu gymorth mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, ac

    5. e

      rheoli disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol;

    6. f

      ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach” (“further education learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

  • ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.