Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rheoliadau hyn

3.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol (ar ba delerau bynnag) i gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, neu’n awdurdodi (ar ba delerau bynnag) corff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru i—

(a)hysbysu person am rywbeth, neu

(b)rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

(2Mae adran 88 o Ddeddf 2018 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon) yn gymwys i’r ddarpariaeth—

(a)fel pe bai’n ddarpariaeth yn Rhan 2 o Ddeddf 2018,

(b)fel pe bai’r cyfeiriadau yn yr adran honno at gorff llywodraethu neu awdurdod lleol yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, ac

(c)fel pe bai’r cyfeiriad yn adran 88(4) at adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(1) (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) yn gyfeiriad at adran 13 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019(2) (cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig).

(2)

2019 dccc 4. Mae adran 13 wedi ei diwygio gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), Atodlen 1, paragraff 5(1), (3)(b) a (4)(a). Mae diwygiadau eraill i adran 13 nad ydynt yn berthnasol.