RHAN 3SWYDDOGAETHAU ATODOL
Nwyddau a gwasanaethau
Darparu nwyddau neu wasanaethau mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol32.
(1)
Caiff awdurdod lleol gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i—
(a)
person sy’n arfer swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, neu
(b)
person sy’n gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y Rhan honno,
ar yr amod bod y nwyddau hynny neu’r gwasanaethau hynny yn cael eu cyflenwi at ddiben arfer y swyddogaethau hynny neu wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, yn ôl y digwydd.
(2)
Caiff y telerau a’r amodau y mae awdurdod lleol yn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau arnynt o dan baragraff (1) gynnwys telerau ac amodau o ran talu a chânt fod yn wahanol ar gyfer personau gwahanol neu ar achlysuron gwahanol.
(3)
Ond rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau na fyddai unrhyw delerau ac amodau o ran talu, drwy gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall, yn arwain at daliadau i’r awdurdod sy’n uwch na’r gost resymol iddo o gyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau y gwneir y taliadau mewn cysylltiad â hwy.