RHAN 4RHIENI A PHOBL IFANC NAD OES GANDDYNT ALLUEDD
Pan nad oes gan riant plentyn allueddI135
1
Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau yn narpariaethau Deddf 2018 a restrir isod at riant plentyn i’w darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw—
a
adran 11(4);
b
adran 13(3);
c
adran 18(3);
d
adran 20(3)(a) a (b);
e
adran 22(1)(b) a (2)(b);
f
adran 23(8), (10) ac (11);
g
adran 24(7), (9) a (10);
h
adran 26(1)(b);
i
adran 27(1)(b) a (4);
j
adran 28(2)(b), (4), (5) a (7);
k
adran 31(7)(b), (8) a (9);
l
adran 32(1)(a) a (b) a (3);
m
adran 64(3) a (4).
2
Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae cyfeiriadau at rieni plant, a rhieni disgyblion yn adran 9(3)(b) a (4)(a) o Ddeddf 2018 yn y drefn honno i’w darllen fel pe baent yn cynnwys y rhieni a chynrychiolydd i’r rhieni.
3
Pan nad oes gan riant plentyn alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriad yn rheoliad 22(5)(b) at riant y plentyn i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.